Facebook Pixel
Skip to content

Arweinyddiaeth gref yn allweddol er mwyn cyrraedd nodau cynaliadwyedd

Clywais unwaith fod 80% o’r allyriadau carbon sy’n cael eu creu ar draws y byd yn dod o fusnesau.

Dyna ystadegyn syfrdanol.

Mae’n dangos pam mae’n rhaid i arweinwyr busnes a gwleidyddol fod yn gyfrifol a helpu i wneud y byd yn lle mwy gwyrdd a diogel.


Mae cynaliadwyedd yn fater pwysig i mi. Rwy’n teimlo cyfrifoldeb mawr fel arweinydd CITB i sicrhau ein bod yn gweithredu mewn ffordd y byddai fy wyrion eisiau i mi ei wneud, fel bod y byd y byddwn yn ei adael iddynt yn un y cânt ei fwynhau yn yr un modd ag y cafodd fy nghenhedlaeth i.

Heriau Arweinyddiaeth

Mae pob un ohonom yn gwybod beth yw’r heriau. Yn fyd-eang, nid yw’r cynnydd o ran gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd wedi bod hanner ddigon cyflym.

  • Cartrefi’r DU yw rhai o’r cartrefi leiaf ynni-effeithlon yn Ewrop, ac maent yn gyfrifol am bron i chwarter ein holl hallyriadau. Yn ôl y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd, mae angen inni wario £45bn dros y 15 mlynedd nesaf i ôl-osod ein cartrefi.
  • Mae Llywodraethau ledled y DU wedi ymrwymo i gyrraedd allyriadau Sero Net erbyn 2050 (2045 yn yr Alban).

Mae’n fy nychryn i glywed y rhethreg bresennol mai efallai dewis yw “pethau gwyrdd”, a’i fod yn wariant y gallwn fyw hebddo. Mae’r safbwynt hwn yn awgrymu diffyg dealltwriaeth ynghylch pa mor fawr yw’r broblem. Ni allwn fforddio’r gost sy'n gysylltiedig â’r effaith y gallai’r newid yn yr hinsawdd ei chael. Mae’r cloc yn tician.

Gwyrdd

Yn ystod y Gwanwyn a dechrau’r Haf, soniais am bwysigrwydd sgiliau gwyrdd mewn cynadleddau a gynhaliwyd gan EU Skills, Cymdeithas Penaethiaid Adeiladu Prydain a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr. Rwy’n gwybod, o fy nghyfnod blaenorol ym maes cynaliadwyedd, fod gan y diwydiant adeiladu rai o’r modelau busnes mwyaf arloesol a chreadigol yn yr holl sectorau. Mae rhywfaint o’r gwaith ym maes adeiladu i gyrraedd Sero Net yn wych.

Er hynny, pan fydd elw’n brin a’r opsiynau cynaliadwy’n ddrutach, gall buddsoddi mewn cynaliadwyedd fod yn anodd i arweinydd busnes. Ond rhaid i ni beidio byth â rhoi’r ffidil yn y to. Rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o wneud opsiynau Sero Net yn opsiynau cost mwy perswadiol neu wneud cleientiaid yn fwy doeth ynglŷn â’r mater o opsiynau cynaliadwy.

Sgiliau

Roeddwn i hefyd yn falch o fod yn rhan o gyfarfod cyntaf tasgu’r Sgiliau ar gyfer Tasglu Nenlinell Gynaliadwy, a gynhaliwyd ym mis Mai. Dyma angerdd gennyf, ac yn ystod fy areithiau pwysleisiais nad fel ychwanegiad at bopeth arall rydym yn ei wneud y mae CITB yn cyflawni nodau Sero Net. Petaem yn gwneud hynny, dim ond cystadlu â blaenoriaethau eraill y byddem ni.

Mae Sero-net, neu yn hytrach cynaliadwyedd – Sero Net yn garreg filltir ar gyfer cynaliadwyedd – mae iddo werth corfforaethol ac mae’n llywio popeth rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud. Nid ychwanegiad mohono, ond ffordd o redeg ein busnes.

Rydym mewn sefyllfa wych yn CITB oherwydd creu gwerth cymdeithasol yw ein gwaith ni. Er enghraifft, mae CITB yn helpu i hyfforddi tua 30,000 o brentisiaid y flwyddyn. Mae effaith hynny, sef y gwerth cymdeithasol rydym yn ei greu, yn enfawr. Dyna 30,000 o bobl sy’n cael y cyfleoedd bywyd a gefais i ar ôl i mi orffen fy mhrentisiaeth.

Mae rhoi dealltwriaeth o Sero Net i 30,000 o brentisiaid yn golygu y gallai ein heffaith ar yr agenda hon fod yn enfawr. Prentisiaid yw arweinwyr busnes y dyfodol. Drwy wneud ein gwaith yn dda, rydym yn creu gwerth cymdeithasol yn naturiol – mae hynny’n rhan o gynaliadwyedd.

Yn wir, pa mor dda ydych chi’n meddwl mae hynny’n gwneud i ni deimlo? Mae’n bwrpas gwych, yn sicr. Mae’n rhoi pwrpas i mi godi o'r gwely bob bore i wneud swydd rwy’n ei mwynhau, un sy’n cael effaith fawr. Dim ond cynyddu y bydd gwerth cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod. Fel y dywed Pennaeth Diwydiant a Dadansoddi CITB, Marcus Bennett, “o hyn ymlaen, swydd werdd yw pob swydd”.

Cydweithio

Fel y mae Arweinyddiaeth yn allweddol er mwyn mynd i’r afael â nodau Sero Net, mae cydweithio yn bwysig hefyd.

Ym mis Ebrill, roeddwn i'n falch o weld Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi (SCSS), sy'n cael ei hariannu'n rhannol gan CITB, yn derbyn Gwobr y Frenhines am Fenter ym maes Datblygu Cynaliadwy. Mae’r ysgol yn gwneud gwaith gwych yn y maes hwn, a boed i hynny barhau.

Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae gan CITB gynlluniau uchelgeisiol. Rydym yn datblygu cynllun gweithredu Sero Net a fydd yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen eleni. Mae hyn yn dilyn ein hymchwil ym mis Mawrth 2021, Building Skills for Net Zero a’n hadroddiad ym mis Tachwedd 2021 Net Zero and Construction: Perspectives and Pathways.

Rydym hefyd wedi dechrau gweithio ar Strategaeth Cynaliadwyedd. Bydd yn rhoi sylw i’n gwaith yn fewnol ac yn allanol, a chaiff ei chyhoeddi yn ystod y Gwanwyn nesaf. Yn gryno, mae CITB yn casglu’r dystiolaeth sydd ei hangen i wneud y dewisiadau iawn a gosod sylfeini ar gyfer ailadeiladu system sgiliau.

Rwy’n gobeithio y bydd y gwaith hwn yn cael derbyniad da, ond mae’n rhaid i mi fod yn onest a dweud fy mod yn ymwybodol iawn bod angen i CITB, fel llawer o sefydliadau, gyflymu ac ehangu’r gwaith rydym yn ei wneud.

Byddaf yn sicrhau ein bod yn ymdrechu i wella ein cynaliadwyedd a’n gwerth cymdeithasol.

Newid

Rhan bwysig o arweinyddiaeth yw dangos esiampl. Mae fy ffordd o fyw wedi newid llawer dros y blynyddoedd diwethaf.

Rwyf bellach yn llysieuwr. Rwy’n gyrru car trydan (fy mhedwerydd car trydan) ac fe wnes i insiwleiddio fy nhŷ blaenorol y tu hwnt i fanylebau’r adeilad ar y pryd. Mae gen i dŷ newydd erbyn hyn, sy’n llai na’r hen un, a fy mlaenoriaeth yw ei inswleiddio.

Gall pob un ohonom chwarae rhan, yn y gwaith ac yn y cartref, i wneud y byd yn lle mwy diogel i ni ein hunain ac i'r genhedlaeth nesaf.

Rwy’n edrych ymlaen at arwain gwaith CITB ar hyfforddi gweithlu sgiliau gwyrdd, gan helpu’r diwydiant i arloesi a gweld sut bydd ein hymchwil a’n buddsoddiad o fudd i’r sector ac i gymdeithas.

Byddwn yn falch o glywed gennych chi am y newidiadau rydych chi’n eu gwneud. Rhowch wybod i mi!

Os hoffech chi rannu eich barn am flog Tim, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ceo@citb.co.uk.