Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI)
Golyga'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) bod gan unrhyw un, o unrhyw le, yr hawl i ofyn am unrhyw wybodaeth gorfforaethol yr ydym yn ei chadw.
Mae'n bosibl y bydd adegau lle nad oes modd i ni roi'r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani gan fod gan y Ddeddf eithriadau a allai fod yn berthnasol.
Sut i gyflwyno cais
Y cyfan sydd rhaid i chi wneud yw:
- cyflwyno eich cais ysgrifenedig trwy lythyr neu e-bost,
- gan nodi'n glir y wybodaeth yr ydych yn ei heisiau,
- i'n cyfeiriad e-bost penodol ar gyfer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth information.governance@citb.co.uk neu ffurflen ymholiad ar-lein.
Ymateb i geisiadau Rhyddig Gwybodaeth
Unwaith y byddwn wedi cael eich cais, byddwn yn ymateb iddo tu fewn i 20 diwrnod gwaith. Os bydd angen eglurhad arnom, neu os bydd oedi yn debygol, byddwn yn cysylltu â chi.
Yn ein hymateb, byddwn yn cadarnhau os ydym yn cadw'r wybodaeth gan ei chyflwyno i chi'n rhannol neu'n gyflawn. Os nad ydym yn gallu rhoi'r wybodaeth i chi byddwn yn esbonio pam. Er enghraifft, na fyddwn â'r gallu i roi gwybodaeth a allai gyfaddawdu hawl person arall at breifatrwydd i chi.
Mae'n bosib y byddwn yn codi ffi cyn rhoi'r wybodaeth a wnaethoch gais amdani. Os nad ydych yn hapus bod eich cais wedi cael ei ddelio â yn bridodol, gallwch gysylltu â'r Comisynydd Gwybodaeth
Os nad ydych yn hapus bod eich cais wedi cael ei ddelio ag yn briodol, gallwch gysylltu â'r Comisynydd Gwybodaeth.
Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth blaenorol
Gallwch chwilio trwy'r ymatebion cyhoeddedig i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a restrir yn ôl maes pwnc.