CITB yw Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant ar gyfer y diwydiant adeiladu ac mae'n bartner yn SgiliauAdeiladu, y Cyngor Sgiliau Sector.
CITB yw bwrdd hyfforddi'r diwydiant ar gyfer y sector adeiladu yn Lloegr, yr Alban a Chymru. Ein gwaith ni yw helpu'r diwydiant adeiladu i ddenu talent a chefnogi datblygu sgiliau, er mwyn creu Prydain well.
Rydym yn gorff cyhoeddus anadrannol gweithredol sy'n gyfrifol am ein cyllideb a'n gweithgareddau. Wedi ein noddi gan yr Adran Addysg, rydym hefyd yn atebol i weinidogion y llywodraeth, ac yn y pen draw y Senedd.
Yr hyn rydym yn anelu at ei wneud
Er mwyn cefnogi diwydiant adeiladu Prydain:
Ein partneriaid allweddol
Rydym yn gweithio gyda llawer o sefydliadau ar draws y llywodraeth a'r diwydiant, ond ein partneriaid strategol allweddol yw Cyngor y Diwydiant Adeiladu (CIC) (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) a CITB Gogledd Iwerddon (CITB NI) (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd). Gyda'n gilydd, ni yw y Cyngor Sgiliau Sector Adeiladu (SSCC), a elwir hefyd yn SgiliauAdeiladu.
Mae'r SSCC yn cynrychioli pob rhan o'r diwydiant adeiladu ym mhob rhan o'r DU.
Gan weithio gyda'n gilydd, rydym yn defnyddio ein meysydd arbenigedd unigol i ehangu ein rhagolygon cyfunol. Mae hyn yn ein helpu i ddeall tueddiadau sy'n dod i'r amlwg, manteisio ar gyfleoedd ar lefel genedlaethol, a chyflawni ein cenhadaeth a'n cynlluniau .