Facebook Pixel
Skip to content

Cefnogi Iechyd Meddwl ym maes Adeiladu yn flaenoriaeth i CITB

I ddynodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (9 - 15 Mai 2022) mae CITB yn addo rhoi cefnogaeth barhaus i hyfforddiant a dealltwriaeth.

Roedd astudiaeth a wnaethpwyd gan Lighthouse Construction Industry Charity a CITB, yn dangos yr effaith y mae iechyd meddwl gwael yn ei gael: Roedd ymchwil yn dangos bod 26% o weithwyr yn y diwydiant adeiladu wedi cael meddyliau yn ymwneud â hunanladdiad, a bod 91% yn teimlo bod pethau’n mynd yn drech na nhw. Mae 2 weithiwr adeiladu yn diweddu eu hunain bob diwrnod, ac mae hynny’n drist iawn.

Mae CITB eisoes wedi ffurfio partneriaeth â Laing O’Rourke, y Lighthouse Club a’r Samariaid er mwyn hyfforddi 8000 o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle gan wneud gwybodaeth a chefnogaeth iechyd meddwl yn hygyrch ac yn berthnasol i gyflogwyr adeiladu bach a chanolig eu maint. Bydd CITB yn cyhoeddi rhagor o gefnogaeth ar gyfer cynllun a fydd yn cynnwys prentisiaid.

Er 2018, mae CITB wedi cyfrannu £1,550,396 i brosiectau iechyd meddwl. Ac mae dros £1.3 miliwn mewn grantiau wedi’u talu i gefnogi cyrsiau cymorth cyntaf ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl a hyrwyddwyr iechyd meddwl, gan gefnogi bron i 950 o gyflogwyr.

Dywedodd Tim Balcon, Prif Swyddog Gweithredol CITB: “Rwy’n gwybod yn iawn bod llawer o resymau pam y mae gan adeiladu record wael yng nghyswllt iechyd meddwl. Mae’r ffactorau’n cynnwys gweithio oddi cartref; baich gwaith trwm; oriau gwaith hir; rhagfarn; taliadau hwyr ac ansicrwydd swyddi. Gall arferion rheoli gwael a diffyg dealltwriaeth ychwanegu at y broblem hefyd.

“Mae angen i’r diwydiant adeiladu edrych ar ôl ei weithlu. Pan fydd pob gweithiwr yn gallu cael cefnogaeth, heb ofni’r stigma, bydd bywydau’n cael eu hachub a bydd yn haws denu pobl newydd i’r diwydiant.

“Bydd ein cefnogaeth i hyfforddiant a chynlluniau iechyd meddwl yn parhau, a bydd yn cael ei hamlinellu yn ein Cynllun Busnes newydd a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach y mis hwn.”

Ychwanegodd Bill Hill, Prif Swyddog Gweithredol Lighthouse Construction Industry Charity, “Mae hyfforddi swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn ffordd o achub bywydau. Gall un unigolyn wneud gwahaniaeth mawr dim ond drwy wrando a chefnogi rhywun sy’n teimlo nad oes ganddo neb i droi ato.”

Dyma stori gafodd ei hadrodd gan swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Tynnwyd yr enwau ohoni er mwyn parchu cyfrinachedd.

Y sefyllfa a gyflwynwyd i mi oedd gweld gweithiwr adeiladu 30 oed yn y ganolfan iechyd ar safle. Roedd yn dweud ei fod yn teimlo’n ‘isel’ a’i fod ‘wedi cael digon’. Roedd ei swydd newydd gael ei dileu, ac er bod hyn yn gyffredin yn y diwydiant adeiladu a bod ganddo waith asiantaeth wedi’i drefnu cyn hynny, roedd problemau a newidiadau gartref wedi digwydd yr un pryd.

Roedd ei berthynas gyda’i gariad, a oedd yn fam i un o’i blant, wedi dod i ben chwech wythnos cyn iddo golli ei waith. Roedd wedi symud allan o’r cartref roedden nhw’n ei rannu, ac o ganlyniad doedd ganddo nunlle i fyw ar wahân i’w lety gwaith tra’n gweithio oddi cartref. Roedd ganddo hefyd ddau blentyn â phartner blaenorol.

Erbyn hyn roedd ar fin bod yn ddigartref ac yn ddi-waith a doedd ganddo ddim teulu i’w gefnogi. Roedd wedi colli ei fam pan oedd yn ifanc, roedd ei dad wedi gadael ac roedd ei frawd yn ei wthio ymaith. Roedd ganddo sgôr credyd gwael felly ni allai rentu ac roedd ganddo hiraeth.

Roedd yn dweud nad oedd ei fywyd yn werth ei fyw mwyach a bod “safleoedd adeiladu yn beryglus ar y gorau, ond yn enwedig i rywun sy’n teimlo fel hyn”, a chymerais fod hynny’n cyfeirio at bosibilrwydd o hunan-niweidio neu gri am gymorth o leiaf. Roedd yn cyfaddef ei fod yn cael meddyliau yn ymwneud â hunanladdiad, ond yn dweud bod y syniad o adael ei blant yn ei atal rhag gweithredu ar sail y meddyliau hyn.

Roeddwn i eisoes wedi rhoi rhif ffôn Llinell Gymorth y Diwydiant Adeiladu iddo, llinell gymorth sy’n cael ei rhedeg gan y Lighthouse Construction Industry Charity, elusen sy’n arbenigo mewn cefnogi gweithwyr adeiladu a’u teuluoedd drwy broblemau ariannol, problemau teuluol a phroblemau iechyd meddwl. Pan drefnais i’w gyfarfod y diwrnod canlynol, nid oedd wedi ffonio’r llinell gymorth ac roedd wedi cyrraedd sefyllfa erbyn hyn lle na allai symud ymlaen na gwneud penderfyniad.

Roedd yn ceisio datrys gormod o bethau yr un pryd, ac roedd arno angen help i flaenoriaethu ei broblemau. Gyda’n gilydd, fe wnaethom ni ysgrifennu rhestr o bethau i roi blaenoriaeth iddynt, gan roi datrys ei angen am rywle i fyw a’r angen am fewnbwn brys gan feddyg teulu ar frig y rhestr. Yna fe wnes i ei annog i alw Llinell Gymorth y Diwydiant Adeiladu o’m swyddfa fel ei ‘un cam mawr am y diwrnod’ i’w gyflawni. Dywedodd nad oedd ganddo ddim byd arall i’w golli, ac fe wnaeth yr alwad.

Roedd ar y ffôn am hanner awr, a gadawodd i mi wrando ar y sgwrs, felly rwy’n sylweddoli sut roedd o’n teimlo o wybod bod rhywun yn gwrando arno. Roedden nhw’n amlwg yn deall y bywyd anodd a dryslyd yn aml y mae gweithwyr adeiladu’n ei fyw, a doedd dim un o’i broblemau yn newydd iddynt. Pan ddaeth oddi ar y ffôn, gwenodd a dweud, “mae rhywun o ddifri yn helpu.”

Ychwanegodd Bill, “Roedd diwedd cadarnhaol i’r stori hon, ond yn anffodus, i lawer o’n cydweithwyr yn y diwydiant adeiladu, mae amgylchiadau fel hyn yn gorffen yn drist iawn. Â chefnogaeth gan CITB a’r diwydiant adeiladu mae angen i ni wneud rhywbeth nawr. Gall un cam bach wneud gwahaniaeth mawr, ac rydym yn annog pawb i ofyn ‘wyt ti’n teimlo’n iawn?’. Yn ogystal â hyfforddiant rydym hefyd yn darparu Llinell Gymorth 24/7 i’r Diwydiant Adeiladu sy’n cynnig cefnogaeth gyfrinachol amrywiol am ddim, ac sy’n cael ei hategu gan Ap Hunan-Gefnogaeth di-dâl. Mae ein gwasanaeth neges destun HARDHAT di-dâl i 85258 yn cynnig ffordd arall o gael cefnogaeth, ynghyd â’n Lighthouse Beacons sy’n cynnig lle diogel i bobl rannu pryderon.”

Mae CITB ar fin cyhoeddi cyllid i gefnogi prentisiaid.

Bydd tiwtoriaid adeiladu Addysg Bellach yn cael eu hyfforddi i fod yn Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl er mwyn iddynt allu cefnogi prentisiaid adeiladu tra maent yn dysgu eu crefft. Bydd prentisiaid yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl hefyd er mwyn iddynt gael yr wybodaeth a’r addysg tra maent yn dysgu, ar ddechrau eu gyrfa, a thrwy gydol eu gyrfa ym maes adeiladu. Darperir cefnogaeth un i un hefyd.

I gael rhagor o gefnogaeth ac adnoddau iechyd meddwl ymwelwch â’n sefydliad partner, The Lighthouse Construction Industry Charity.