Canlyniadau Chwilio
Chwilio am newyddion a digwyddiadau
Math
Newyddion lleol a digwyddiadau
Canfuwyd 96 o erthyglau
Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.
Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.
Katherine Evans o Bold as Brass, Caerdydd sydd yn y brig yn y 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu eleni
Mae'n bleser gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) gyhoeddi'r enillwyr Gwobrau 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu 2024. Llongyfarchiadau i Katherine Evans o Bold as Brass, Caerdydd a enillodd Wobr yr Arwr Lleol Cymru yn ogystal â'r Wobr Mwyaf Dylanwadol yn Gyffredinol.
CITB yn cryfhau’r ymrwymiad i sicrhau bod y system Lefi yn gweithredu’n deg
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi cyhoeddi heddiw ei safbwynt cryfach ar ‘drosglwyddo’r Lefi’. Mae’r symudiad yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y CITB, y Pwyllgor Strategaeth Lefi, Cynghorau’r Gwledydd a’r 14 Sefydliad Rhagnodedig i sicrhau bod y system Lefi’n gweithredu’n deg ac yn gyfartal ar draws y diwydiant adeiladu.
CITB yn nodi dyddiadau allweddol ar gyfer Ymgynghoriad Consensws ar Lefi 2026-29
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi cyhoeddi heddiw y bydd ei ymgynghoriad â’r diwydiant adeiladu ar opsiynau Cynigion Lefi ar gyfer 2026-29 cyn Consensws y flwyddyn nesaf yn rhedeg o 26 Medi tan 24 Hydref.
Menywod mewn Adeiladu 2024 yng Nghymru
Cynhaliodd Tîm Ymgysylltu CITB Cymru bedwar digwyddiad blasu Menywod mewn Adeiladu ledled Cymru y mis hwn, gan ymgysylltu â 265 o ddisgyblion o flynyddoedd 8-10, o 20 ysgol ledled Cymru.
Y dalent ddisgleiriaf ym maes adeiladu: Cyhoeddi cystadleuwyr Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2024
Mae’r hyfforddeion a’r prentisiaid adeiladu gorau o bob rhan o’r DU wedi’u cyhoeddi ar ôl i’r nifer uchaf erioed o gystadleuwyr gymryd rhan yn Rhagbrofion Rhanbarthol SkillBuild 2024 eleni.
CITB yn cyhoeddi ymgynghoriad Consensws ar gyfer Lefi 2026-29
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn dechrau ymgysylltu Consensws â’r diwydiant adeiladu ar gynigion Lefi ar gyfer 2026-29 ym mis Medi 2024. Mae Consensws yn broses y mae CITB fel arfer yn ei chynnal bob tair blynedd i ofyn i gyflogwyr adeiladu am eu barn ar ei gynlluniau ar gyfer cynhyrchu Lefi a'r sgiliau a'r hyfforddiant y bydd hyn yn eu darparu i'r diwydiant. Ffocws craidd CITB ar gyfer y cynigion sy’n cael eu rhannu ym mis Medi yw sicrhau bod yr eithriadau a’r gostyngiadau yn aros yn gyfredol ac yn briodol.
Arolygiad monitro Ofsted yn canfod "cynnydd sylweddol" o ran ansawdd hyfforddiant yng Ngholeg Adeiladu Cenedlaethol CITB
Yn dilyn ymweliad monitro diweddar, mae Ofsted heddiw wedi cadarnhau bod Coleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC) Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn gwneud "cynnydd sylweddol" tuag at ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel i bobl yn y diwydiant adeiladu.
Cyhoeddi rhestr fer ar gyfer y 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu
Mae’n bleser gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau 100 o fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu 2024.
Angen dros 250,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol erbyn 2028 i ateb y galw
Mae’r rhagolwg diwydiant blynyddol gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn amlygu’r bwlch parhaus rhwng yr hyn sydd ei angen ar y DU i gadw i fyny â’r galw a’r gweithlu sydd ar gael i ateb yr her.
Y nifer uchaf erioed o gystadleuwyr yng Nghystadlaethau Rhagbrofol Rhanbarthol SkillBuild
Mae colegau ar draws y DU yn paratoi i gynnal y gystadleuaeth sgiliau adeiladu fwyaf a hiraf, gyda dros 1,000 o fyfyrwyr ar fin cystadlu yng Nghystadlaethau Rhagbrofol Rhanbarthol SkillBuild 2024 eleni.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth