CITB Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad o £780,000 i ymestyn prosiect Hybiau Profiad ar y Safle
Mae cyllid ar gyfer Hybiau Profiad Ar y Safle CITB Cymru, prosiect sydd wedi llwyddo i gael 524 o bobl yn barod am y safle adeiladu mewn dim ond deunaw mis, wedi cael ei ymestyn i 2025.
Bydd cyllid o £780,000 yn rhoi cyfle i 780 yn rhagor o bobl o gymunedau lleol i ennill sgiliau a phrofiad amhrisiadwy, gan agor amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ym maes adeiladu.
Mae’r prosiect wedi bod ar waith yng Nghymru fel rhan o gynllun ledled y DU sy’n werth £9.5m. Mae Hybiau ar y Safle yn ceisio dileu’r rhwystrau i gyflogaeth yn y diwydiant adeiladu. Rheolir y pedwar hwb yng Nghymru gan rwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant lleol.
Mae’r hybiau yn y lleoliadau canlynol:
- Dau leoliad yng Nghaerdydd, dan arweiniad Cyngor Caerdydd a Kier Construction
- Gorllewin Cymru dan arweiniad Cyfle Building Skills Ltd
- Ar draws gogledd Cymru, yn cael eu rheoli gan Procure Plus.
Dywedodd Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB:
“Dywedodd cyflogwyr wrthym nad oes gan rai newydd-ddyfodiaid y sgiliau angenrheidiol i ddechrau gweithio, felly mae ein hybiau Profiad Ar y Safle yn pontio’r bwlch rhwng hyfforddiant a gweithio.
“Bydd ymestyn yr hybiau hyn yn cynyddu’r gronfa dalent yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru, gan greu llif o weithwyr sy’n barod ar gyfer gwaith i ddiwallu anghenion cyflogwyr adeiladu lleol. Bydd hyn yn galluogi’r diwydiant i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol nawr ac yn y dyfodol.”
Dywedodd Adam Jones o Brenig Construction:
“Un o’r heriau mwyaf rydym wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf yw colli cenedlaethau o weithwyr. Hynny yw, gweld cyfnodau lle nad oes llawer o bobl o dan 40 oed yn dod i’r diwydiant. Mae hyn wedi golygu bod diffyg pobl brofiadol ar gael. Mae’r unigolion a ddaw drwy’r cynllun hwn yn awyddus i weithio ym maes adeiladu a dim yn ei ddefnyddio fel swydd dros dro. Rydym yn edrych yn fanwl ar hanes pob ymgeisydd, ac maent wedi ymrwymo i weithio.”
Enillodd Lauren Taylor swydd gyda Lane End Group ar ddechrau eu datblygiad tai yn Llandudno, sy’n cynnwys tai cymdeithasol.
Mae wedi hyfforddi ar gwrs yn y Rhyl yn ddiweddar: “Roeddwn wedi dod ag aelod o’m teulu i grŵp cefnogi Byddin yr Iachawdwriaeth a chlywais am y cwrs bryd hynny. Pan glywais fod unrhyw un yn cael ymuno â’r cwrs, roedd gennyf ddiddordeb.
“Rydw i’n hoffi gweithio gyda fy nwylo a bwrw iddi go iawn, ac yn mwynhau gwaith sydd fel arfer yn gysylltiedig â dynion. Yr adborth a gefais o’r tu allan oedd mai gwaith i ddynion yw’r rolau hyn - ond na, mae menywod yn gallu gwneud y swyddi hyn hefyd.
“Rydw i wedi bod yn beiriannydd sy’n chwilio am ollyngiadau dŵr yn y gorffennol, ac roeddwn yn labrwr i gwmni adeiladu preifat. Rydw i wir yn mwynhau’r gwaith caled ac yn cael boddhad yn y swydd.
“Rhoddodd y cwrs hyfforddiant iechyd a diogelwch manwl i ni a phwysleisiodd bwysigrwydd iechyd a diogelwch ar y safle. Cefais fy ngherdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) yn y post tair wythnos ar ôl cwblhau’r cwrs. Roeddwn i’n teimlo’n barod iawn i ymgymryd â’r gwaith.
“Mae Procure Plus yn eich helpu i gael gwaith ar ôl y cwrs. Gwnaethon nhw ofyn i mi ble roeddwn i eisiau gweithio, ac yna dod o hyd i swydd a oedd 3 munud o fy nghartref!
“Fy uchelgais i? Wel, pan fydda i’n gweld ysgol... rydw i’n hoffi anelu at ddringo i’r top. Rydw i eisiau bod yn rheolwr safle mewn pum mlynedd.”
Dywedodd Mick Cunningham, Cyfarwyddwr Adeiladu Lane End Group:
“Mae Lane End yn frwd dros gefnogi unrhyw fenter sy’n helpu i hyrwyddo gyrfa yn y diwydiant adeiladu.
“Mae’n llawer o bobl yn diystyru gwaith adeiladu fel gyrfa addawol sy’n rhoi boddhad, ac mae’n gyfrifoldeb ar y sector cyfan i newid y canfyddiad hwn.
“Mae sefydliadau fel Procure Plus a CITB wir yn gallu helpu gyda hyn, gan roi hwb go iawn i mewn i’r diwydiant.
“Mae Lane End yn rheoli pob cam o’r daith i’r diwydiant adeiladu - o gaffael i ddylunio, adeiladu a chyflawni’r gwaith adeiladu yn y pen draw. Bydd ein partneriaeth yn rhoi cyfle gwych i unigolion symud ymlaen mewn ystod eang o rolau yn ein busnes.
“Rydym wrth ein bodd ein bod yn cefnogi Procure Plus ac yn croesawu Lauren i’n tîm safle yn Llandudno”
Mae Stefan yn un arall o raddedigion y rhaglen Profiad ar y Safle, ac mae bellach yn gweithio mewn swydd amser llawn i gwmni adeiladu yn Wrecsam, Read Construction. Eglurodd Stefan ei fod yn gorffen bwrw ei dymor yng Ngharchar CEM Berwyn yn Wrecsam ac fe gafodd gynnig le ar raglen Procure Plus i wella ei sgiliau ‘parod am waith’. Yn ystod wythnosau olaf dedfryd Stefan, cafodd ei bartneru â Read Construction i weithio mewn amodau agored ar sail ei ryddhau am y dydd.
Dywedodd: “Fe wnes i fynychu’r cwrs a ddarparwyd gan Procure Plus ac roeddwn i’n ei weld fel cyfle gwych i gael dyfodol heb droseddu. Mae adeiladu yn rhoi incwm cynaliadwy i mi er mwyn darparu bywyd a dyfodol da i mi a’m teulu.” Ychwanegodd Stefan ei fod wedi cael ei groesawu a’i gefnogi gan bawb yn Read Construction, gan ennill rhagor o sgiliau a phrofiad i gefnogi ei yrfa yn y diwydiant yn y dyfodol.
Dywedodd Karen Heaton- Morris, Cyfarwyddwr yn Read Construction:
“Gyda’r bwlch cynyddol mewn sgiliau, mae mentrau fel y Profiad ar y Safle yn wych. Gyda’n carchardai’n dysgu amrywiaeth o sgiliau ar gyfer y maes diwydiant, mae cronfa dalent enfawr gyda’r potensial i helpu i leihau prinder sgiliau. Ymunodd Stefan â’n tîm ar leoliad tymor byr i ddechrau, lle cafodd gyfle i wella ei brofiad ar y safle wrth iddo gael ei ryddhau am y dydd, ac roeddem yn falch iawn o gynnig cyfle gwaith amser llawn iddo ar ôl iddo gael ei ryddhau, gan ei helpu i ddod yn ôl ar y trywydd iawn. Roedd penodiad Stefan yn llenwi swydd wag hirdymor yn y busnes, sy’n dangos prinder gweithwyr gyda sgiliau yn ein rhanbarth lleol”.
Gall pobl o bob cefndir wneud cais i ddilyn y rhaglen pythefnos sy’n cynnwys prawf Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd a Dyfarniad Lefel 1 mewn Iechyd a Diogelwch. Gyda phrofiad gwaith yn cael ei ennill ar safleoedd gweithredol, mae cyflogwyr lleol wedyn yn gallu recriwtio gweithwyr sy’n barod am y safle adeiladu yn syth i’w swyddi gwag.
Ers i’r cynllun fod yn gweithredu, mae 766 o bobl (363 yng Nghymru a 403 yn Lloegr) wedi dechrau gweithio ym maes adeiladu.
Mae’r hybiau’n rhoi cyfle i gyflogwyr dreialu ymgeiswyr ar safleoedd adeiladu gweithredol gan roi profiad ymarferol go iawn i geiswyr gwaith. Pan fydd y lleoliad profiad ar y safle wedi’i gwblhau, bydd y cyflogwr wedyn yn penderfynu a yw’r ymgeisydd yn addas ar gyfer ei fusnes ac, os felly, yn ei recriwtio yn y ffordd arferol.
Mae mwy gan gyflogwyr am fanteision y cynllun Profiad ar y Safle yma.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn dechrau ei yrfa adeiladu ar un o’n cyrsiau hyfforddi ar y safle gael gwybod mwy yma : Hwb Profiad ar y Safle Cymru