Facebook Pixel
Skip to content

Codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn y sector adeiladu

Mae iechyd meddwl yn bwnc sy'n golygu llawer i mi.

Wrth i Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl agosáu, hoffwn rannu fy mhrofiadau ar lefel broffesiynol a phersonol.

Fel Prif Weithredwr CITB, rwy’n ymwybodol iawn o’r gwaith y mae’n rhaid i’r diwydiant ei wneud i wella iechyd meddwl ei weithlu oherwydd yn ddi-flewyn-ar-dafod, mae’r ystadegau’n ddifrifol.

Bob dydd mae dau weithiwr yn y sector adeiladu yn lladd eu hunain. Ac er bod gwaith i drawsnewid diwylliant adeiladu wedi dechrau, mae gan bob un ohonom lawer mwy i'w wneud.

O safbwynt personol, mae fy mab, sy’n hyfforddi i fod yn nyrs iechyd meddwl, wedi dioddef afiechyd meddwl difrifol. Rwy’n gwybod yr effaith y gall salwch meddwl ei chael ar unigolyn, eu teulu, eu ffrindiau a’u gwaith felly mae gen i lawer i’w rannu gyda chi.

Gadewch i ni ddechrau gyda’r sector adeiladu.

Stigma

Mae yna sawl rheswm pam mae gan adeiladu hanes gwael o ran iechyd meddwl. Mae'r ffactorau'n cynnwys gweithio oddi cartref; llwythi gwaith trwm; oriau gwaith hir; taliadau hwyr ac ansicrwydd swydd. Mae sbardunau ar gyfer afiechyd meddwl bob amser yn unigryw i’r unigolyn ac mae’n rhaid i ni gydnabod hyn.

Mae angen i’r sector adeiladu ofalu am ei weithlu. Pan fydd pob gweithiwr yn gallu cael mynediad at gymorth, heb ofni stigma, bydd bywydau’n cael eu hachub, bydd denu unigolion newydd yn haws a bydd y bwlch sgiliau’n cau.

Mae cefnogi iechyd meddwl ym maes adeiladu yn flaenoriaeth i CITB. Ers 2018, mae CITB wedi cefnogi bron i 950 o gyflogwyr – ac wedi dyfarnu £1,550,396 o gyllid i brosiectau iechyd meddwl. Mae dros £1.3m mewn grantiau wedi'u talu i gefnogi cyrsiau cymorth cyntaf ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a phencampwyr iechyd meddwl.

Amlinellodd ein hadroddiad ym mis Awst 2021 Iechyd Meddwl ac Adeiladu: dull cydgysylltiedig faint yr her iechyd meddwl sy’n wynebu diwydiant ynghyd ag atebion i wella diwylliant y gweithle.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod diffyg cymorth iechyd meddwl integredig ar draws y diwydiant. Mae cydweithio’n allweddol i fynd i’r afael â’r mater hwn. Dyma pam mae CITB yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu i gydlynu ymateb y diwydiant ac i ddarparu gwell cymorth. Roedd yr adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o arfer da ac rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl ac adeiladu i edrych arno.

Gwella

Rwyf wedi dysgu llawer am iechyd meddwl yn ystod fy ngyrfa ac fel tad, y mwyaf y byddaf yn dysgu, y mwyaf rwy'n sylweddoli nad wyf yn gwybod.

Yn nes adref aeth fy mab yn sâl yn ei arddegau roedd yn anodd, fel rhiant, i ddweud beth oedd yn bryder arferol i blant yn eu harddegau, a beth oedd yn rhywbeth mwy difrifol. Mae hyn oherwydd ei fod wedi bychanu ei symptomau rhag ofn nad oedd yn edrych yn cŵl. “Rwy’n iawn, Dad”, oedd ei sylw i mi wrth adael, cyn iddo wneud ei ymgais diwethaf i gyflawni hunanladdiad.

Dioddefodd gylchred o ludded dro ar ôl tro ac yna adferiad. Bu blynyddoedd o geisio hunanladdiad ac yna gobeithion am ddyfodol gwell.

Yr un yw ei gyflwr yn awr ag yr oedd trwy'r blynyddoedd o ludded, fodd bynnag, y trobwynt oedd cael y cymorth a'r rheolaeth gywir dros y salwch. Mae bellach yn siarad pan fydd arno angen cymorth ac mae wedi dysgu technegau i ddelio ag ef os oes angen. Dyma pam y gall adeiladu ei fywyd tuag at ddyfodol cadarnhaol. Rwyf wedi darganfod gwir ystyr rhinweddau fel uchelgais, dyfalbarhad, dewrder, a chryfder mewnol gan fy mab.

Estynnodd allan a chafodd help gan lawer o weithwyr proffesiynol. Fodd bynnag, roedd ei ffrindiau'r un mor bwysig. Roedd ond cael rhywun i siarad â nhw, gwybod y byddai ffrind yno heb farnu, neu wybod nad oedd tynnu coes arferol ffrindiau oedd y peth iawn i’w wneud, oedd yr un peth a’i cadwodd i fynd.

Y wers fwyaf rwyf wedi’i ddysgu drwy ei salwch yw bod yr ymennydd yn organ tebyg i'r galon, yr ysgyfaint a'r afu. Rydym yn barod i dderbyn pan aiff yr organau hyn o chwith ond eto'n cael trafferth deall sefyllfaoedd pan nad yw ein hymennydd yn gweithio'n iawn. Rydym ni'n ei guddio. A dyna pryd mae problemau'n dechrau. Mae salwch meddwl fy mab wedi’i wneud yn gryfach ac nid yw’n nodwedd sy’n ei ddiffinio.

Cefnogaeth

Nid wyf dan unrhyw gamargraff ar y cynnydd y mae’n rhaid i’r diwydiant adeiladu ei wneud ar frys ar iechyd meddwl. Bydd ein cefnogaeth dros hyfforddiant a mentrau iechyd meddwl yn parhau a bydd yn cael ei amlinellu yn ein Cynllun Busnes newydd.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn partneriaeth â, Laing O’Rourke, Lighthouse Club a’r Samariaid i sicrhau bod gwybodaeth a chymorth iechyd meddwl yn hygyrch ac yn berthnasol i gyflogwyr adeiladu bach a chanolig. Rydym hefyd yn gweithio ar gomisiwn i gefnogi iechyd meddwl prentisiaid wrth iddynt ddechrau ar eu taith i adeiladu.

Ffrindiau

Thema Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl eleni yw unigrwydd, problem a waethygwyd i lawer o bobl gan y pandemig.

Mae bywyd modern yn cyflymu ond os gallwn wneud ychydig mwy o amser i’n gilydd, fel y gwnaeth ffrindiau fy mab iddo, fe allai wneud byd o wahaniaeth.

Gall hyd yn oed achub bywyd.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw un o'r materion a godwyd yn y blog hwn, mae cymorth iechyd meddwl ar gael. Gellir cysylltu â 'The Lighthouse Club' drwy e-bost: info@lighthouseclub.org neu drwy ffonio: 0345 609 1956. Gellir cysylltu â’r Samariaid unrhyw bryd o unrhyw ffôn, yn rhad ac am ddim: 116 123.

Os hoffech chi rannu eich barn ar flog Tim, cysylltwch â ceo@citb.co.uk.