Facebook Pixel
Skip to content

Cyflogwyr yn cofrestru i gynnig Dechrau Newydd i gyn-droseddwyr sydd i fod i gael eu rhyddhau o Garchar HMP y Berwyn

Mae Tim Balcon, Prif Weithredwr Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), wedi ysgrifennu at gyflogwyr adeiladu i’w gwahodd i gymryd rhan mewn cynllun peilot, a fydd nid yn unig yn cynnig gwaith i gyn-droseddwr ond hefyd yn helpu cyflogwyr i lenwi eu bwlch sgiliau. 

Dywedodd Tim: “Rwy’n falch iawn o fod yn gweithio gyda grŵp o bobl o’r un anian o wahanol sefydliadau yn y Gogledd Orllewin a’r Gogledd. 

“Rydym wedi dod at ein gilydd mewn ymgais i fynd i’r afael â’r broblem ynghylch sgiliau a chynorthwyo unigolion sy’n chwilio am gyfle i gael dechrau newydd. 

“Rydym yn gobeithio y bydd y peilot hwn yn esiampl ar gyfer partneriaethau rhwng cyflogwyr, CITB, darparwyr hyfforddiant a charchardai eraill yn genedlaethol wrth symud ymlaen.” 

Mae J Murphy & Sons Ltd, arbenigwyr cyflogaeth HMPPS, Rhwydwaith Dyfodol Newydd, HMP Berwyn, y Canolbwynt Profiad Ar y Safle a ariennir gan CITB a reolir gan Procure Plus a CITB yn chwilio am grŵp o gwmnïau adeiladu parod a all ddod ynghyd â chynnig cyfleoedd i garcharorion a fydd yn cael eu rhyddhau yn ystod y misoedd nesaf. 

Gofynnir i gyflogwyr gynnig cyfleoedd gwaith gwirioneddol i'r rhai sy'n gadael y carchar, gan ddefnyddio'r canolbwynt i benodi ar gyfer eu swyddi gwag. 

Bydd yr hyfforddiant sgiliau adeiladu sylfaenol gofynnol yn cael ei gwblhau wrth barhau yng Ngharchar y Berwyn, ac yn cael ei ategu gan leoliad gwaith ar y safle. 

Bydd y cyflogwr yn noddi / mentora un o'r ymgeiswyr tra byddant yn ymgymryd â'u hyfforddiant. Bydd cyfnod cynefino gyda'r cwmnïau yn digwydd yn y ddalfa i baratoi ar gyfer rhyddhau pan fyddant yn cwblhau lleoliad profiad gwaith gorfodol neu gyflogaeth uniongyrchol. 

Mae cyflogwyr sydd â diddordeb wedi cael eu gwahodd i fynychu digwyddiad ymwybyddiaeth ‘Dechrau Iach’ ar 5 Ebrill i weld cyfleusterau’r carchar a chlywed a, lwyddiannau gan un o bartneriaid y fenter, J Murphy & Sons Ltd. 

Mae J Murphy & Sons Limited eisoes wedi ffurfio partneriaeth lwyddiannus gyda HMP Berwyn ac wedi ymgysylltu â’r rhai sy’n gadael y carchar ers cryn amser. 

Dywedodd John Murphy, y Prif Swyddog Gweithredol: “Rwy’n falch o gadeirio Bwrdd Cynghori ar Gyflogaeth y Berwyn, a chyda’r cynnydd diriaethol rydym eisoes yn ei wneud yng Ngharchar y Berwyn. Diolch i CITB a phartneriaid eraill am eu cefnogaeth. 

“Hoffwn annog pob cyflogwr rhanbarthol i ystyried cyn-droseddwyr fel ffrwd gyflogaeth werthfawr ac ysgogydd posibl eu twf economaidd. Mae ein rhaglen yn symud y ffocws i ddatblygu troseddwyr tra eu bod yn dal yn y system carchardai, gan sicrhau eu bod yn barod i symud yn syth i waith sefydlog pan gânt eu rhyddhau. Dylai cyflogwyr sydd â diddordeb fynychu ein digwyddiad ar 5 Ebrill i ddarganfod mwy.” 

Cafwyd ymateb da eisoes ac yn dilyn y digwyddiad cyflogwyr ym mis Ebrill bydd sesiwn “Cyfarfod â’r cyflogwr” ym mis Mai ar gyfer carcharorion sydd ar fin cael eu rhyddhau a hoffai gymryd rhan yn y cynllun. Bydd cyflogwyr yn cael y cyfle i gyfarfod â'r ymgeiswyr, i archwilio eu set sgiliau a nodi profiad neu gyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael. Cyn eu rhyddhau, bydd y carcharorion yn cwblhau rhaglen cynefino gyda’r cwmni i sicrhau eu bod yn barod i ddechrau gweithio ar ôl eu rhyddhau. 

Mae hwn yn gynllun peilot ar gyfer HMP y Berwyn gyda chynlluniau i gyflwyno’r model i garchardai eraill yn y dyfodol agos.