Facebook Pixel
Skip to content

Cyhoeddi enillwyr ‘Gemau Olympaidd sgiliau adeiladu’ SkillBuild

Mae enillwyr Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2023 wedi’u cyhoeddi, ar ôl i 78 o hyfforddeion adeiladu fynd benben dros dri diwrnod.

Cyflwynir SkillBuild gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) ac mae’n arddangos rhai o’r talentau mwyaf disglair ym maes adeiladu. Mae’r gystadleuaeth fawreddog yn dod â dysgwyr a phrentisiaid hynod fedrus at ei gilydd i frwydro i gael eu coroni’n enillydd y grefft o’u dewis.

Yn dilyn y gemau rhagbrofol rhanbarthol, a gynhaliwyd mewn gwahanol golegau ar draws y DU yn gynharach eleni, cynhaliwyd y Rownd Derfynol Genedlaethol yn Arena Marshall yn Milton Keynes ar 21-23 Tachwedd. Denodd y digwyddiad tua 1,000 o ymwelwyr, gan arddangos yr amrywiaeth o sgiliau a chyfleoedd gyrfa sydd ar gael o fewn y diwydiant.

Dros y tridiau cafodd y cystadleuwyr y dasg o adeiladu prosiect a ddyluniwyd gan banel o feirniaid arbenigol, o fewn amserlen o 18 awr. Mae’r prosiect yn profi gwybodaeth a sgiliau’r unigolyn, yn ogystal â’u gallu i weithio dan bwysau, gan sicrhau eu bod yn cadw at brotocolau iechyd a diogelwch.

Dywedodd Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB: “Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at ddigwyddiadau SkillBuild ac mae’r Rownd Derfynol eleni yn Arena Marshall wedi bod yn llwyddiant ysgubol unwaith eto! Mae’n wych cyfarfod â’r holl unigolion dawnus a chlywed am eu dyheadau gyrfa, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu croesawu cymaint o aelodau’r cyhoedd eleni hefyd.”

“Ar adeg pan fo’r diwydiant yn mynd trwy brinder sgiliau, mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf hon o dalent a’u hannog i ddilyn eu hangerdd. Mae gan SkillBuild y potensial i wneud gwahaniaeth enfawr yma, gan drawsnewid diddordeb neu hobi yn yrfa llawnamser, a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n ymwneud â gwneud cystadleuaeth eleni’n bosibl. Yn olaf, llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a phawb a gystadlodd, dylech chi i gyd fod yn hynod o falch ohonoch chi’ch hun.”

Cafwyd araith ysbrydoledig gan gyn-gystadleuydd Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild ac enillydd Saernïaeth, Harry Scolding, ar ail ddiwrnod y gystadleuaeth. Bu'n trafod ei daith gystadlu a sut mae wedi elwa o'r gystadleuaeth yn ei yrfa.

Dywedodd Harry Scolding: “Mae SkillBuild wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl, gan roi’r cyfleoedd i mi, hwb i fy hunangred, a’r set sgiliau i’m galluogi i dyfu fy angerdd, nid yn unig yn y diwydiant ond hefyd â chystadlaethau. Roedd y profiad cyfan o SkillBuild yn hollol wych o’r dechrau i’r diwedd. Os cewch gyfle i gymryd rhan yn SkillBuild, ewch amdani. Gan fynd i mewn â’r meddylfryd ‘Dydw i ddim yn ddigon da’ ac amau eich hun, rydych chi’n gosod eich hun i fethu yn y pendraw cyn i chi hyd yn oed ddechrau. Dydych chi byth yn gwybod, ac efallai y byddwch yn synnu eich hun.

“Heb y digwyddiad hwn, fyddwn i ddim lle rydw i heddiw. Rwyf nawr yn hyfforddi â’r cyfle i gynrychioli fy ngwlad ar lwyfan rhyngwladol, i gyflwyno set sgiliau saernïaeth y DU i’r byd. Ochr yn ochr â hyn, rydw i hefyd yn gweithio ar dyfu fy musnes, gan roi’r sgiliau rwy’n eu dysgu o’r broses ar waith yn y gweithle.”

Yr enillwyr o SkillBuild yw:

Gosod Brics

1st – Joseph Shingler

2nd – Kyle Blower

3rd – Archie Kitching

Gwaith Coed

1st – Osian Hedd James

2nd – Glyn Paewai

3rd – George Page

Gwneud Dodrefn

1st – Ben Reed

2nd – Matt Turner

3rd – Kye Allen

Saernïaeth

1st – Steffan Thomas

2nd – Jack Corner

3rd – Eric Philips

Paento ac Addurno

1st – Jacqui Hawthorne

2nd – Shelby Fitzakerly

3rd – Kirsten Jackson

Plastro

1st – Newton Robinson

2nd – Jake Moore

3rd – Josh McBride

Plastro a Systemau Wal Sych

1st – Shaun McKenna
 
2nd – Joshia Buchanan-Buxton

3rd – Thomas Donnelly

Toi â Llechi a Theils

1st – Jacob Blight

2nd – Hamish Morgan

3rd – Aeron Murray

Gwaith Maen

1st – Augustus Gillick

2nd – Ruaridh Strachan

3rd – William Samson

Teilsio Waliau a Lloriau

1st – Patryk Niedoba

2nd – Steven Andrews

3rd – Marshall Winder

Hoffai CITB ddiolch i holl noddwyr gwych SkillBuild eleni, sy’n cynnwys:

British Gypsum, Crown Paints, BAL Adhesives, NFRC, TARMAC, SPAX, Schluter, Weber, The Tile Association, Nicobond, Stabila, The Keystone Group, Forterra, Tesa, Tilgear, Permavent, SR Timber, BMI Redland, Stone Restoration Services, Midland Lead, Hambleside Danelaw, NSITG, Rollins Group, Albion Stone, a Felder Group.

Os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod ddiddordeb mewn cymryd rhan yng nghystadleuaeth blwyddyn nesaf, ewch i Am Adeiladu am ragor o wybodaeth.