Facebook Pixel
Skip to content

Gweithwyr adeiladu yn uno i wella diogelwch tân

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn galw ar bob gweithiwr adeiladu i helpu i wella diogelwch tân ar draws y diwydiant.

Yn dilyn trasiedi Tŵr Grenfell yn 2017 ac ymchwiliad dilynol, mae’r diwydiant wedi gweithio’n galed i godi safonau diogelwch er mwyn atal digwyddiad o’r fath rhag digwydd eto.

Un canlyniad fu cydnabod diffyg gwybodaeth ac ymlyniad ynghylch diogelwch tân ar draws y diwydiant.

Er mwyn helpu i wella safonau mae CITB, mewn ymgynghoriad â'r diwydiant, wedi bod yn datblygu dau gwrs ar-lein newydd, y ddau yn ymwneud â diogelwch tân.

Mae’r cwrs cyntaf – Ymwybyddiaeth Diogelwch Tân mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig – wedi’i lansio ledled y DU ar gyfer gweithwyr o bob lefel a galwedigaeth.

Er nad yw'n orfodol, mae gweithwyr yn cael eu hannog i gwblhau'r eGwrs sydd yn rhad ac am ddim, sy'n cynnig trosolwg o ymwybyddiaeth sylfaenol o ddiogelwch tân ym maes adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Gofynnir i gyflogwyr hefyd gyfarwyddo'r holl weithwyr, staff neu isgontractwyr, i gwblhau'r cwrs.

Mae'n ymdrin â phynciau fel sut mae tanau'n cychwyn, yn tyfu ac yn ymledu, yn ogystal â ffynonellau tanio a thanwydd cyffredin ar y safle, mesurau atal ac amddiffyn rhag tân, gwacáu'n ddiogel ac effaith tân ar yr amgylchedd, cymunedau ac unigolion.

Bydd yr ail eGwrs – Diogelwch Tân mewn Adeiladau – ar gael yr haf hwn. Mae’r cwrs wedi’i greu mewn cydweithrediad â Gweithgor 2 a Build UK ac mae wedi’i anelu at lefel uwch na’r cwrs cyntaf, gyda’r nod o ddarparu lefel uwch o wybodaeth am ddiogelwch tân mewn adeiladau i’r diwydiant, yn dilyn y cam adeiladu.

Mae'n adeiladu ar gwrs yr ASB drwy ganolbwyntio ymhellach ar bynciau allweddol megis sut mae deddfwriaeth a rheoliadau wedi newid ers trasiedi Grenfell.

Mae hefyd yn cynnig arweiniad ar ddiogelwch tân cyfannol, atal tân (deunyddiau), amddiffyn (goddefol a gweithredol), adrannau, llwybrau dianc gwarchodedig, crefftwaith, cymhwysedd, ansawdd, adrodd ar faterion a phryderon.

Darganfod mwy am Ymwybyddiaeth Diogelwch Tân mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig