Helpu myfyrwyr Lefel T Ar y Safle i gael swyddi adeiladu
Mae myfyrwyr Lefel T Adeiladu ar y Safle yn cael cyfle newydd i gael swyddi ym maes adeiladu.
Gall y myfyrwyr Lefel T Adeiladu Ar y Safle arbenigo mewn gosod brics, gwaith saer ac asiedydd, plastro, a phaentio ac addurno a chwblhau lleoliad diwydiant 45 diwrnod, lle gallant roi sgiliau a ddysgwyd yn yr ystafell ddosbarth ar waith.
Mae Lefelau T yn seiliedig ar yr un safonau â phrentisiaethau, sy'n rhoi sylfaen gref i fyfyrwyr yn eu maes arbenigol. Yn dibynnu ar ddyfnder eu profiad, efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth pellach ac amser yn y gwaith ar fyfyrwyr i sicrhau eu bod yn gwbl gymwys.
Mae’r CITB a phartneriaid (DfE, IFATE, NOCN, Gatsby Foundation a’r Association of Colleges (AOC)) yn treialu ffordd newydd i fyfyrwyr Lefel T ddangos cymhwysedd galwedigaethol llawn unwaith y byddant mewn gwaith.
Bydd myfyrwyr sydd i fod i gwblhau eu Lefel T yn haf 2023 yn gallu cynnal asesiad cychwynnol sy’n pennu a oes angen:
- 12 mis neu fwy o ddysgu ychwanegol i gyrraedd cymhwysedd galwedigaethol ar Lefel 3 - felly gallwch gofrestru ar ‘brentisiaeth garlam’, Neu
- llai na 12 mis o ddysgu ychwanegol, ac felly gellir ei gyflogi fel hyfforddai yn gweithio ar y safle a gweithio tuag at gael asesiad cymhwysedd amgen a gynigir gan NOCN.
Bydd yr asesiad cymhwysedd hwn yn adlewyrchu Asesiad Pwynt Terfynol y brentisiaeth. Gan y bydd yn tystio i gymhwysedd galwedigaethol llawn, bydd y rhai sy'n llwyddo yn gymwys i wneud cais am gerdyn CSCS llawn. Ar gyfer cyflogwyr sy’n derbyn hyfforddai, bydd cymorth ymarferol o ddydd i ddydd yn cael ei ddarparu gan Dîm Cymorth Prentisiaethau’r CITB.
Mae'r cynllun peilot dwy flynedd ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau Lefel T Adeiladu Ar y Safle ac yn cael ei ariannu gan Sefydliad Gatsby a CITB.
Dywedodd Bruce Boughton, Rheolwr Datblygu Pobl yn Lovell: “Mae'r Lefel T Adeildau Ar y Safle yn ffordd wych o ddod â mwy o bobl ifanc dawnus i'r sector adeiladu. Bydd gweithredu’r ‘EPA wedi’i adlewyrchu’ a’r brentisiaeth garlam yn gam enfawr ymlaen wrth ganiatáu i ddysgwyr symud ymlaen i gymhwysedd llawn ym mha bynnag lwybr sy’n gweddu i’w hanghenion dysgu ac anghenion sgiliau ymarferol cyflogwyr.”
Dywedodd Graham Hasting-Evans, Prif Weithredwr Grŵp NOCN: “Mae Grŵp NOCN yn falch iawn o gefnogi’r fenter hon i gefnogi dysgwyr i yrfaoedd ym maes adeiladu. Yn ogystal, rydym yn croesawu’r symudiad i fwy o brentisiaethau masnach lefel 3 mewn adeiladu, datblygiad yr ydym wedi’i gefnogi ers tro.”
Dywedodd Dawn Hillier, Pennaeth Strategaeth Safonau a Chymwysterau CITB: “Mewn economi heriol, mae’n hanfodol bwysig arfogi pobl ifanc yn llawn fel eu bod yn barod ar gyfer y byd gwaith go iawn. Yn CITB, rydym yn cefnogi’r diwydiant adeiladu i adeiladu a chynnal gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol nawr ac yn y dyfodol.”