Mae angen crefftwyr i hyfforddi'r genhedlaeth adeiladu nesaf
Mae CITB yn buddsoddi yn nyfodol hirdymor ei Goleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC) gydag ymgyrch recriwtio i ddod â chrefftwyr profiadol i'r ystafell ddosbarth i drosglwyddo eu sgiliau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn addysgu'r cymeriant nesaf o'ch crefft yna bydd CITB yn eich hyfforddi i addysgu. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi i ennill Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn fewnol yn NCC.
Mae'r rolau presennol yn Bircham ar gyfer hyfforddwyr sgaffaldiau a hyfforddwyr gweithrediadau peiriannau.
Gyda dros 10,000 o fyfyrwyr/prentisiaid ar fin mynychu'r coleg yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, mae arweinwyr y cwrs yn awyddus i ddod o hyd i'r ymgeiswyr gorau ar gyfer y swydd.
Dywedodd Rheolwr Cwricwlwm NCC, Chris Bushell: “Rydym yn chwilio am bobl sy’n awyddus i drosglwyddo eu sgiliau a rhoi rhywbeth yn ôl i’r diwydiant trwy wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad ein dysgwyr. Yn gyfnewid am hyn byddwn yn buddsoddi amser ac arian gan ddarparu llawer o hyfforddiant i ymgeiswyr llwyddiannus fel y byddant yn ennill cyflog wrth ddysgu o'r cychwyn cyntaf.
“Byddwn yn rhoi’r offer addysgu sydd eu hangen arnoch i ddatblygu i drosglwyddo’ch sgiliau gwerthfawr.”
Mae John Aiken yn uwch hyfforddwr yn Bircham. Dywedodd: “Mae addysgu mewn adeiladu yn rhoi boddhad mawr, ac mae gwylio eich myfyrwyr yn datblygu sgiliau a fydd yn eu galluogi i fod yn rhan o ddiwydiant deinamig yn deimlad gwych.
“Mae’r CITB yn fuddsoddwr gwych mewn pobl, ac mae ganddo hanes o ddatblygu arbenigwyr pwnc yn athrawon cymwysedig. Gydag amodau gwaith gwych a manteision cystadleuol, ni fu erioed amser gwell i wneud cais am rôl addysgu yn CITB.
Mae’r rolau hyfforddwyr allweddol hyn yn cael eu hysbysebu ar adeg pan fo’r diwydiant yn wynebu rhai heriau recriwtio mawr, gan gynnwys yr angen i recriwtio 217,000 o weithwyr ychwanegol erbyn 2025.
Dilynwch y ddolen hon (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) i wirio swyddi gwag diweddaraf yr NCC nid yn unig yn Bircham ond yn Erith a Glasgow hefyd.
John Aiken, uwch hyfforddwr yn Bircham, yn cyfarwyddo prentis Harry Skoyles ar Liebherr 132 Tower Crane. Mae Harry bellach yn hyfforddwr ac aseswr amlddisgyblaethol peiriannau