“Mae arwain o’r tu blaen yn rhan o fod yn gynghreiriad LHDTC+ da”
“Mae yna lawer o bobl o hyd sy’n meddwl bod bod yn agored ac yn dryloyw am eich rhywioldeb yn rhy anghyfforddus, bod Pride a’i ddathliadau yn estyniad o hyn yn unig, yn ogystal â bod yn wastraff arian ac adnoddau cwmni.”
Daw’r geiriau hynny gan Lisa Charlwood-Green, Hyrwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant y flwyddyn Network Rail.
Yn siaradwr ysbrydoledig ar hawliau LHDTC+, Lisa yw sefydlwr a chyfarwyddwr The Wow Network.
Wedi’i ffurfio ychydig dros chwe blynedd yn ôl, mae The Wow Network yn cefnogi menywod LHDTC+ sydd naill ai allan neu’n ystyried dod allan yn y gweithle.
Mae Lisa wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau ym maes adeiladu dros y 15 mlynedd diwethaf. Er bod bod yn fwy agored ac yn fwy dilys yn y gwaith yn cael ei annog yn fwy nag erioed, dyweda Lisa bod llawer iawn o waith i’w wneud o hyd ar amrywiaeth a chynhwysiant.
Wrth i Pride 2023 ddod i ben, buom yn siarad â Lisa ar sut i wella bywydau gwaith y gymuned LHDTC+ yn y diwydiant adeiladu.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i unigolion LHDTC+ sy'n ystyried gyrfa adeiladu?
Byddwn i’n dweud bod y cyfleoedd gyrfa yn ddiddiwedd. Peidiwch â’i ddiystyru “bŵts ar falast” neu swyddi AD a gweinyddol yn unig. Does dim ots beth yw eich set sgiliau neu brofiad, mae yna rôl i chi.
Allwch chi rannu unrhyw brofiadau cadarnhaol o fod yn aelod o aelod LHDTC+ yn y diwydiant adeiladu?
Rhai cadarnhaol? Dyna gwestiwn diddorol!
Mae dau beth amdani i yn awr. Rwy’n hŷn, felly mae llai o ots gen i. Rydw i mewn sefyllfa o bŵer felly nid wyf yn clywed cymaint o negyddiaeth a micro-ymosodiadau (Lisa yw Pennaeth Datblygu Sefydliadol a Diwylliant Network Rail). Ydyn, mae pethau wedi gwella, ond mae cymaint mwy i’w wneud.
Mae llawer o bobl yn teimlo’n fwy cyfforddus i fod allan yn y gwaith felly mae hynny wir yn bositif. Dydw i erioed wedi cuddio pwy oeddwn i, nid yw yn fy natur, hyd yn oed pan oedd yn andros o anodd.
Ydych chi erioed wedi cael mentor neu rywun i ymddiried ynddo yn ystod y cyfnodau anodd?
Doeddwn i byth yn teimlo’n gyfforddus i ymddiried yn neb yn y gwaith – nid oedd yn lle diogel i mi. Fy unig fentor, hyd at ychydig flynyddoedd yn ôl, oedd fy nain, Stella. Roedd yn weddw yn ifanc, dechreuodd elusen, gwirfoddolodd ei bywyd cyfan fel oedolyn a gofalu am fy ewythr sydd â syndrom Downs – roedd hi’n frwydrwr. Pan gollais i hi, collais bopeth. Roedd yn gyfnod anodd iawn, ac rwyf wedi gorfod dod yn fwy hunan-wydn, yn ogystal â dechrau ymddiried mewn mwy o bobl, sydd wedi bod yn anodd – pan fyddwch chi’n teimlo’n wahanol nid ydych chi eisiau bod yn agored a bod hyd yn oed yn fwy agored i niwed. Mae gen i hyfforddwr nawr, nid yn y gymuned LHDTC+, ond mae’n dda iawn am fy herio.
Roeddwn i mewn un swydd, am bron i ddegawd, lle mai fi oedd yr unig berson a oedd allan mewn swyddfa o 500 o bobl. Cymerodd hynny ei doll. Ni ofynnodd unrhyw un am fy mhenwythnosau’r holl amser roeddwn i yno. Nid yw’r un peth â chael geiriau erchyll yn cael eu siarad â chi, ond mae’n dal i fod yn engrhaifft o fwlio, gan nad yw’n gynhwysol.
Roeddwn yn destun clecs maleisus am amser hir yn y swydd honno. Rwy’n cofio bod yn y toiledau unwaith, mewn ciwbicl, pan ddaeth dau berson i mewn a dechrau siarad amdanaf. Arhosais tan yn hir ar ôl iddynt adael. Roedd yn anhygoel o anodd dod i’r gwaith a gwenu.
Pan oeddwn yn feichiog â fy mab ieuengaf, roeddwn yn teimlo’n agored iawn i niwed yn y swydd honno. Rwy’n cofio bod un o’m cydweithwyr wedi ceisio cymryd arno nad oedd fy meichiogrwydd yn bodoli – ddim yn hawdd gan fy mod yn 5’1, ac felly mae beichiogrwydd yn weladwy iawn! Roeddwn yn ei chael yn ddoniol ac yn ofidus yn rhannau cyfartal.
Nawr rwy’n dewis fy mhenaethiaid yn ofalus iawn. Fe ddes i yn ôl i weithio yn Network Rail yn benodol i weithio i fy rheolwr, Susan Anderson, sydd wedi ymddeol ers hynny. Roeddwn i wir yn edmygu ei hymddygiad a’i hagwedd. Roedd hi’n berson cynhwysol a oedd yn bwysig iawn i mi fel rheolwr llinell. Roedd Susan wedi gweithio yn y maes adeiladu o ddechrau ei gyrfa, felly roedd hi’n gwybod sut brofiad oedd bod yn un o leiafrif.
Sut mae’r diwydiant adeiladu wedi dod yn fwy cynhwysol o’r gymuned LHDTC+?
I mi, y newid mwyaf a gawsom yn Network Rail oedd pan ddaeth Mark Carne (Prif Weithredwr Network Rail 2014-18) i Pride yn Llundain. Ysgrifennodd Mark erthygl ar gyfer y cylchgrawn mewnol. Dywedodd: “Rydw i’n mynd i fod yn gynghreiriaid gweladwy. Ni fyddaf yn derbyn pobl sy’n aflonyddu neu’n bwlio pobl sy’n LHDTC+.”
Newidiodd hynny’r rhethreg ar draws y cwmni er inni gael problemau o hyd. Es â fy mhlant i Pride a chael sylwadau fel: “Mae hynny’n ffiaidd, mynd â phlant i Pride, ceisio eu pwylltreisio (brainwash).”
Ond newidiodd y sylwadau o 90% negyddol i 90% cadarnhaol. Roedd yn newid enfawr. Roedd yn dangos sut mae arwain o’r tu blaen yn rhan o fod yn gynghreiriad LHDTC+ da. Roedd Mark yn wych am ddechrau’r sgwrs.
O ran cynwysoldeb, rwy’n meddwl nad ydym yn mynd i gael gweithlu mwy amrywiol os na allwn gael y pethau sylfaenol yn gywir.
Mi wnâi rhoi enghraifft i chi. Mae pawb yn meddwl bod gen i obsesiwn gyda thoiledau, ond mae cyfleusterau yn ofnadwy i ddynion heb sôn am i fenywod. Rydym yn mynd ar y safle, ac nid oes yna doiledau. Fel menyw, mae’n rhaid i mi fynd i’r toiled olaf posib cyn i mi gyrraedd y safle, ac yna gwneud ymdrech ymwybodol i beidio ag yfed gormod o ddŵr gan nad oes unman i mi fynd.
Rwy’n gwybod beth sydd angen i ni ei wella ac nid oes arnaf ofn herio hynny.
Beth all cwmnïau adeiladu ei wneud i greu diwylliant gweithle mwy cynhwysol ar gyfer gweithwyr LHDTC+?
Mae gen i ffrind, Vicky, sy’n dweud bod Pride, yr enfysau, yn hyfryd. Rwy’n dweud: ‘Na, maen nhw ar ôl Y Bunt Binc, yn rhoi gwerth ariannol ar bopeth rydyn ni’n ei wneud.” Mae hi’n dweud: “Na, Lisa, mae unrhyw enfys yn dda oherwydd mae’n golygu gwelededd.”
Mae hi’n iawn, rwy’n eithaf sinigaidd, felly ar y pwynt hwnnw rwy’n cytuno â hi. Mae’r ffaith ein bod ni’n siarad llawer mwy am LHDTC+ yn gadarnhaol, ond mae angen i ymdrechion Pride perfformiadol gael eu paru â chefnogaeth gymunedol wirioneddol hefyd.
Rwy’n meddwl y gall cwmnïau adeiladu weithio gyda chyflenwyr a chontractwyr i sicrhau bod eu polisïau a’u gweithdrefnau yn gynhwysol ac yn defnyddio iaith ddi-ryw.
Gallant ddewis peidio â gweithio mewn gwledydd lle mae bod yn LHDTC+ yn anghyfreithlon, y gellir ei gosbi trwy farwolaeth neu garchar. Gallant gynnal Asesiadau Effaith Amrywiaeth, i sicrhau bod pob prosiect wedi’i asesu’n ddigonol i fod mor gynhwysol â phosibl. Neu, fe allent gael fflôt enfys fawr, gyda llawer o weithwyr cyffrous yn edrych i gael hwyl a newid eu llun Twitter i logo enfys am fis – ac nid dyna rydyn ni wedi brwydro amdano ers degawdau.
I gael gwybodaeth am bwysigrwydd rhwydweithiau LHDTC+ mewn adeiladu, ewch i’n gwefan Am Adeiladu.
Gallwch weld yr ystod lawn o gyfleoedd gyrfa o fewn adeiladu y cyfeirioedd Lisa atynt ar ein tudalen A-Y Am Adeiladu.