Facebook Pixel
Skip to content

Rôl adeiladu yn her fwyaf ein hoes

"Mae cyfnod berwi byd-eang wedi cyrraedd.”

Pe bai ymadrodd erioed wedi eich gwneud yn ymwybodol o’r perygl o beidio â chyrraedd targedau sero net, yna’r dyfyniad diweddar hwn, gan ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, ydyw.

Rwy’n angerddol dros yr amgylchedd ar lefel broffesiynol a phersonol fel y bydd darllenwyr fy mlogiau’n gwybod.

Mae newid hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom ac mae ei effaith gynyddol yn amlwg.

Yn y blog hwn byddaf yn rhannu ffeithiau diweddar ar newid hinsawdd. Byddaf hefyd yn amlinellu sut y mae CITB yn gweithio gyda diwydiant, Llywodraethau a darparwyr hyfforddiant i wasanaethu’r cyhoedd ar fater mwyaf dybryd ein hoes.

Tymereddau

Mae’r tymereddau a adroddwyd ledled Ewrop yr haf hwn yn peri pryder. Mae’r ffeithiau’n siarad drostynt eu hunain.

Ar ddechrau mis Gorffennaf, cyrhaeddodd tymheredd cyfartalog y byd uchafbwynt newydd, sef 17 gradd Celsius am y tro cyntaf.

Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, cofnododd Tsieina ei thymheredd uchaf, 52.2C chwilboeth.

Yn y cyfamser, yn gynharach y mis hwn, cyrhaeddodd tymheredd cyfartalog dyddiol byd-eang arwyneb y môr ei lefel uchaf, 20.96C.

Mae adroddiadau newyddion ar sychder, tanau difrifol, lefelau’r môr yn codi, rhew pegynol yn toddi a dirywiad mewn bioamrywiaeth yn dod yn gyffredin. Fodd bynnag, er gwaethaf y dystiolaeth frawychus mae yna bobl sy’n meddwl nad oes dim i boeni yn ei gylch. Rwy’n anghytuno.

Nid yw diffyg gweithredu, wrth i’r byd losgi, yn opsiwn. Mae angen gweithredu ar frys a dyna pam yr wyf yn credu bod pob swydd o fewn y diwydiant adeiladu’n swydd werdd.

Credaf hefyd fod gan y diwydiant adeiladu rhan enfawr i’w chwarae wrth fynd i’r afael â phroblem fyd-eang fwyaf ein hoes.

Atebion

Yr atebion y gall y diwydiant adeiladu eu cynnig i newid hinsawdd yw un o agweddau mwyaf apelgar ein diwydiant.

Dychmygwch weithio ar brosiectau arloesol sy’n harneisio adnoddau naturiol y ddaear. A meddyliwch am y boddhad swydd o waith a fydd o fudd i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.

Am ffordd ystyrlon o ennill bywoliaeth. Mae adeiladu’n cynnig y cyfle hwnnw.

Mae’n fraint cael bod mewn swydd rwy’n ei charu, yn arwain sefydliad sydd â chenhadaeth i rymuso gweithwyr presennol – a newydd-ddyfodiaid – â’r sgiliau adeiladu, yr hyfforddiant a’r offer gwyrdd sydd eu hangen i bontio tuag at ddyfodol sero net.

Mae llywodraeth y DU wedi gosod llwybr i sero net erbyn 2050 (â llywodraethau Cymru a’r Alban â chynlluniau at 2050 a 2045 yn y drefn honno). Mae gan CITB gynlluniau allanol a mewnol uchelgeisiol hefyd.

Fel rhan o’n gwaith, rydym wedi diweddaru ein Cynllun Gweithredu Sero Net a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Medi 2022.

Mae’r cynllun yn manylu ar y camau yr ydym yn eu cymryd i osod sylfeini a fydd yn cefnogi diwydiant yn y blynyddoedd i ddod ac yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol.

  • Ymchwil a dadansoddi: Meithrin dealltwriaeth o’r sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant.
  • Safonau a chanllawiau: Sicrhau eu bod yn rhoi eglurder i ddiwydiant, gweithwyr a darparwyr hyfforddiant ac yn y pen draw yn arwain at gymwysterau.
  • Hyfforddiant: Buddsoddi i sicrhau bod y sgiliau cywir ar gael yn y lle iawn.
  • Cydweithio: Gweithio gyda llywodraethau a phartneriaid yn y diwydiant i roi’r cymorth a’r buddsoddiad cywir yn eu lle.

Buddsoddiad

Mae buddsoddiad i uwchsgilio’r gweithlu yn hanfodol i ddatgarboneiddio. Mae llif gwaith hirdymor yn hollbwysig, hefyd, oherwydd mae’n rhoi’r hyder i fusnesau a darparwyr hyfforddiant i fuddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant.

Mae data cyfredol yn dweud wrthym fod 40% o allyriadau’r DU yn dod o’r amgylchedd adeiledig sy’n golygu bod gan y diwydiant adeiladu rôl enfawr i’w chwarae wrth helpu’r DU i gyrraedd sero net.

Rwy’n falch o ddweud bod diwydiant yn gwneud cynnydd. Mae cyflogwyr adeiladu yn cydnabod yr angen i ddatgarboneiddio – â thri chwarter ohonynt yn dweud ei fod yn bwysig iddyn nhw neu eu cwmni. Ond mae angen i ni i gyd symud yn gyflymach.

Gwn fod amseroedd yn anodd, ond anogaf bob cwmni adeiladu i fuddsoddi er ffyniant a lles cymdeithas. Mae ein Cronfa Sgiliau a Hyfforddiant yn lle gwych i ddechrau ar fuddsoddiad.

Mae’r canllaw cydweithredol newydd, When Challenge Becomes Opportunity, hefyd yn nodi sut y gellir elwa â manteision hirdymor wrth fuddsoddi mewn sgiliau. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys gwybodaeth i gyflogwyr am yr ystod o gymorth sydd ar gael.

Cydweithio

Mae ein Cynllun Gweithredu Sero Net yn un agwedd ar ein gwaith ar gynaliadwyedd. Mae CITB hefyd yn:

  • Cefnogi creu hyd at 480,000 o swyddi gwyrdd medrus yn Lloegr, ochr yn ochr â’r Green Jobs Delivery Group, erbyn 2030.
  • Noddi Hyb Ôl-osod Cenedlaethol y Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu.
  • Rhan o’r Tasglu Sgiliau ar gyfer Nenlinell Gynaliadwy. Nod y tasglu yw myn di’r afael â bylchau sgiliau o ran adeiladu. Ôl-osod a chynnal a chadw adeiladau masnachol carbon isel ym mwrdeistrefi Canol Llundain.

Mae CITB hefyd yn awyddus i gyfrannu at fwy o ymdrechion cynaliadwyedd fel sefydliad. Mae gwirfoddoli yn cynnig manteision lluosog, a dyna pam yr wyf yn annog cydweithwyr i dreulio dau ddiwrnod y flwyddyn yn helpu eu cymuned yn unigol neu fel tîm. Mae gan CITB Hyrwyddwyr Gwyrdd i gefnogi’r sefydliad i wneud dewisiadau cynaliadwy.

Cyfrifoldeb

Fel arweinydd CITB, rwy’n teimlo cyfrifoldeb dwfn i sicrhau ein bod yn gweithredu mewn ffordd y byddai fy wyrion ac wyresau am i mi ei wneud.

Rwyf am helpu i sicrhau bod y byd yr ydym yn ei adael yn un y gallant eu mwynhau yn yr un ffordd ag y mae fy nghenhedlaeth i.

Nod CITB yw sicrhau bod cyflogwyr a’u gweithlu’n ffynnu mewn economi sero net. Trwy gydweithio ar raddfa enfawr, gall y diwydiant adeiladu helpu i droi’r llanw.
Rwy’n teimlo’n bositif am y cynnydd sy’n cael ei wneud ac yn edrych ymlaen at weld effaith bellach yn y blynyddoedd i ddod.

Os hoffech chi rannu eich barn, cysylltwch drwy e-bostio ceo@citb.co.uk.

Mae ein gwefan Am Adeiladu’n rhestru’r amrywiaeth o swyddi adeiladu sydd ar gael ar gyfer gyrfa foddhaus yn ein diwydiant.