Facebook Pixel
Skip to content

Technoleg GPS, nid y dyfodol ydyw. Mae’n digwydd yn awr

Siaradodd Gez Bonner, Rheolwr Hyfforddiant Cenedlaethol L Lynch Plant Hire & Haulage Ltd, â CITB am yr hyfforddiant y maent yn ei gynnig i Weithredwyr Peiriannau i feistroli technoleg GPS ar safleoedd adeiladu a'r bartneriaeth gyda CITB a'i gwnaeth yn bosibl.

Mae defnyddio technoleg GPS peiriannau nid yn unig yn adnodd gwych i helpu busnesau i fod yn fwy cynhyrchiol ac effeithlon, ond mae hefyd yn ofyniad ar gyfer prosiectau seilwaith ar raddfa fawr.

Sut mae'n gweithio? Defnyddir technoleg GPS a systemau Rheoli Peiriannau i leoli peiriannau gwrthgloddiau yn gywir. Mae dyfeisiau olrhain GPS yn rhyngweithio â lloerennau, sy'n caniatáu iddynt farcio lleoliadau ar safleoedd adeiladu yn fwy cywir.

Er bod hyn yn arbed amser ac yn lleihau costau, nid oes gan bob busnes Weithredwyr Peiriannau sydd â'r sgiliau cywir i ddefnyddio technoleg GPS.

“Roedd yr angen i ddatblygu hyfforddiant GPS yn fater a oedd yn codi dro ar ôl tro i ni. Roedd cydweithwyr yn arfer dweud mai dyma’r dyfodol, ond mewn gwirionedd, mae’n digwydd yn awr! Mae technoleg GPS wedi dod yn ofyniad ar draws y diwydiant adeiladu yn y DU. Er enghraifft, mae’r A14 o Gaergrawnt i Huntingdon – prosiect gwerth £1.5bn sef cynllun mwyaf Priffyrdd Lloegr, neu’r datblygiad ‘High Speed 2’ yn gofyn am weithredwyr sy’n fedrus mewn technoleg Rheoli Peiriannau GPS”, meddai Gez Bonner.

Yn ôl ym mis Chwefror 2018, penderfynodd Is-adran Hyfforddiant Lynch agor canolfan hyfforddi bwrpasol yng Nghaergrawnt, i hyfforddi eu gweithredwyr i ddefnyddio technoleg GPS. Dechreuodd y ganolfan yn fach, gyda dim ond un peiriant. Heddiw, mae gan y ganolfan ddau beiriant, dwy ystafell ddosbarth, lolfa, ardal adolygu, a ffreutur. Mae wedi dod yn bell: mae dros gant o weithredwyr bellach wedi cael hyfforddiant yn y ganolfan.

Ym mis Awst 2021, derbyniodd Lynch £15,000 drwy Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant Cwmnïau Canolig CITB, i ehangu’r ganolfan a’i chapasiti hyfforddi. Dywed Gez fod y broses ymgeisio yn syml, a byddant yn cyflwyno cais newydd ar gyfer y Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant ym mis Awst 2022.

Dywedodd: “Fe wnaeth y bartneriaeth gyda CITB hyn yn bosibl. Cawsom gymaint o gefnogaeth gan Sarah Peace (Cynghorydd Ymgysylltu CITB Swydd Buckingham) ac Elizabeth Steel (Rheolwr Ymgysylltu â Chwsmeriaid CITB Rhanbarth Canolog y De-ddwyrain). Gwnaeth CITB y broses yn syml iawn, ac mae cyfathrebu bob amser yn llifo rhyngom. Efallai y bydd rhai busnesau ar draws y diwydiant yn gosod rhwystr rhyngddyn nhw a CITB ond rwyf i bob amser yn dweud, nid ni a nhw mohoni, ond ni gyda’n gilydd. Nid elw yw hyfforddiant, ond gwerth i’r diwydiant adeiladu cyfan.”

Cymerodd cyfanswm o 38 o bobl ran yn y rhaglen hyfforddi. Roedd y buddion yn cynnwys:

  • 46% yn llai o oriau prosiect
  • 34% yn llai o oriau offer
  • 37% yn llai o danwydd yn cael ei ddefnyddio
  • 31% yn llai o gyfanswm oriau dyn

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant CITB cliciwch yma.

Ciplun

Cwmni: L Lynch Plant Hire & Haulage Ltd.

Sector: Llogi Peiriannau Hunan Yrru, Gwasanaethau Cludo a Chludiant i amrywiaeth o sectorau o fewn adeiladu.

Her: Cael cyllid i ehangu eu canolfan hyfforddi yng Nghaergrawnt a hyfforddi gweithredwyr mewn technoleg GPS.

Ateb: Mae cynghorwyr CITB Sarah Peace ac Elizabeth Steel yn cefnogi L Lynch Plant Hire yn eu cais am gyllid, a oedd yn llwyddiannus.

Effaith: Diolch i weithredwyr hyfforddedig mewn technoleg GPS, mae L Lynch wedi gweld llai o brosiectau, offer ac oriau gwaith a llai o danwydd yn cael ei ddefnyddio.