Awgrymiadau ar sut i wneud BIM weithio i chi.
Cyngor ar sut i fynd ati i ddefnyddio BIM
Mae newid pob tro yn anodd, yn enwedig os yw'n ofyn i rywun newid i becyn meddalwedd nad ydynt yn hyderus wrth ei ddefnyddio neu sy’n newid y ffordd maent yn gweithio gydag isgontractwyr. I rywun sy’n gweithio ar brosiect, gall newid teimlo’n fygythiol gan arwain at ymddygiadau ymrannol a niweidiol.
Bydd cydnabod y newid i BIM, gan sicrhau bod pawb yn gwybod sut y bydd yn gweithio a pham y mae’r newid yn digwydd yn gwneud y llwybr at lwyddiant yn un rhwyddach i'w droedio. Nid yw cyrsiau da yn dibynnu ar hyfforddiant ar feddalwedd. Maent yn esbonio’r cyd-destun a’r lefelau o ragoriaeth gall pobl anelu atynt.
Yn aml, mae BIM ar gyfer gweithwyr safle yn seiliedig ar ddarllen modelau digidol a gynhyrchwyd gan ddarlunwyr ac ychwanegu data lle mae ei angen a sicrhau bod gwybodaeth yn llifo fel mae angen iddi. Efallai nad oes angen i chi wybod am egwyddorion darlunio BIM, ei fethodoleg na’u fformatau data. Ond, mae gwybod lle rydych yn ffitio i’r broses a pham mae gofyn i chi wneud pethau penodol a sut rydych yn eu gwneud nhw mewn amgylchedd safle adeiladu yn debygol o fod yn elfennau sylfaenol.
Mae hefyd yn annhebygol y bydd pob prosiect rydych yn ei gynllunio yn BIM ond efallai y byddwch am ennill y sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i chwarae rôl gweithredol heb ddod yn arbenigwr BIM yn syth.
Defnyddiwch y cymhellwyr cywir ar gyfer eich timau. Fel darn o gyngor defnyddiol, nid yw dweud ‘byddwn yn gwneud mwy o elw’ yn debygol o gymhell pobl - Mae dweud ‘Mae cael mwy o elw yn ein galluogi i sicrhau sicrwydd swyddi’ yn taro pobl yn fwy personol. Mae ‘Fe wnaethom ennill contract lle roeddent yn mynnu ein bod yn ei ddefnyddio’ yn llai tebygol o daro’r nodyn cywir na ‘Mae’r contract newydd rydym newydd ei ennill yn rhoi’r cyfle i ni roi cynnig arni ac maent yn disgwyl gwelliannau mawr’
Mae helpu pobl dod i ddeall pam y maent yn gwneud rhywbeth newydd, y gwerth y mae’n ychwanegu i’r broses yn ei chyfanrwydd a’r rôl maent yn chwarae yn ffordd dda o ennill eu cefnogaeth. Ystyriwch ddod o hyd i ‘Pencampwr BIM’ mewnol a all helpu sefydlu ac esbonio’r broses newydd i’r tîm
Mae amrywiaeth o becynnau meddalwedd a chaledwedd ar gael i’w defnyddio yn ystod camau adeiladu. Os yw cleiant yn mynnu teclyn penodol, yna gwneir y penderfyniad. Fodd bynnag, fel arfer, byddwch yn deall pwy fydd yn gwneud beth a'r hyn sydd angen arnoch. Er enghraifft, meddyliwch amdano:
- Pa wybodaeth a pha raddfa manylder sydd angen i mi gael mynediad atyn yn ystod y gwaith adeiladu?
- Gyda pwy mae angen i mi rannu gwybodaeth?
- A oes arnaf angen y gallu i dderbyn ac anfon data byw ar y saflef?
- Pa swyddogaethau penodol sydd arno ei angen e.e. amserlennu ymweliadau, gosod mynediad, tynnu lluniau, hawliau, ffurflenni cofnodi data, ayb?
Wrth i’r farchnad dyfu, byddwch yn dod o hyd i fwy o adolygiadau o becynnau meddalwedd, megis Hyb BIM.
Cofiwch: Mae BIM yn mwneud â defnydd callach o wybodaeth a llif gwybodaeth.
Er i safonau BIM helpu pawb gweithredu ar yr un lefel, ni ddylent gyfyngu ar sut y gallwch gael budd o ddefnydd callach o ddata.
Yn yr un modd, os nad ydych yn gweithio ar brosiect swyddogol BIM, peidiwch â gadael i'r ffaith hon gyfyngu ar eich defnydd o declynnau digidol a data. Os ydych chi'n meddwl bod casglu data ynghylch nwyddau, materion ar y safle, llifiau gwaith neu gomisiynu gwybodaeth trwy ddefnyddio ffôn symudol neu lechen i rannu'r wybodaeth â chydweithwyr o gymorth, yna gwnewch hynny. Gall fod yn gam ar y ffordd i fabwysiadu BIM yn llawn.
Cwrs a argymhellir
Academi BRE: BIM ar gyfer Rheolwyr Safle