Facebook Pixel
Skip to content

Beth yw BIM?

Mae Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM) yn ffordd o weithio gyda'n gilydd, proses ar gyfer creu a rheoli'r holl wybodaeth am brosiect adeiladu.

Mae Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM) yn broses sy'n annog cydweithio rhwng yr holl ddisgyblaethau sy'n ymwneud â darlunio, adeiladu, cynnal a chadw a'r defnydd o adeiladau.

Mae'r holl bartïon yn rhannu'r un wybodaeth ar yr un pryd, yn yr un fformat. 

Gellir mesur maint y BIM a ddefnyddir ar wahanol 'lefelau o aeddfedrwydd'.

  • Lefel 0 – CAD nad yw'n cael ei reoli. 
  • Lefel 1 – cymysgedd o dechnoleg 2D a/neu dechnoleg 3D gyda theclyn cydweithio sy'n cynnal Amgylchedd Data Cyffredin (CDE) 
  • Lefel 2 – BIM cydweithredol, lle rennir gwybodaeth model 3D o fewn CDE. 
  • Lefel 3 – Mae'r lefel hwn wrthi'n cael ei ddiffinio, er y disgwyl yw y bydd yn cynnwys gofynion ynghylch cydweithio uwch a chysylltiad â gwelliannau pellach megis 'dinasoedd clyfar'. 

Mae llywodraeth y DU wedi gwneud y defnydd o BIM Lefel 2 yn ofynnol ar gontractau caffael ganolog. Mae'r strategaeth a chynllunio ar gyfer Lefel 3 yn cael ei arwain gan  Digital Built Britain. Gallwch   gael mwy o wybodaeth neu gymryd rhan trwy ymweld a'u gwefan.

Mae'r tîm dylunio fel arfer yn cynhyrchu modelau BIM a setiau data, ond y gweithwyr sydd ar y safle yw'r rhai sydd angen deall, dehongli a rheoli'r broses o gynhyrchiant a llif gwybodaeth yn ystod y gwaith adeiladu. Felly, Mae ymwybyddiaeth o'r cyfrifoldebau a phrosesau mewn prosiectau BIM yn rhan allweddol o'r set sgiliau ar gyfer rheolwyr a gweithwyr.

Er y bydd BIM yn arwain at greu rhai rolau newydd, mewn nifer o achosion mae'n annhebygol y bydd BIM yn achosi rolau newydd, yn hytrach, bydd galwedigaethau cyfredol yn cymryd y cyfrifoldeb dros rannau amrywiol o'r broses.

Ar safle prosiect nodweddiadol BIM, bydd gan weithwyr safle, ac yn benodol rheolwyr safle, nifer o gyfrifoldebau, gan gynnwys:

  • Darllen modelau BIM i gael gwybodaeth ynghylch cynlluniau a chynhyrchion, datrys problemau ac osgoi gwallau
  • Ychwanegu gwybodaeth am gamau adeiladu, cynhyrchion a chomisiynu i'r amgylchedd data cyffredin
  • Defnyddio modelau BIM i drefnu tasgau a rheoli llif gwaith
  • Sicrhau bod eraill o dan eich cyfrifoldeb yn casglu a chyflwyno gwybodaeth  
  • Cofnodi ffurflenni sicrhau ansawdd a phrosesau iechyd a diogelwch.

 Mae'r holl dasgau hyn yn ychwanegu ffyrdd newydd o weithio a chyfrifoldebau ychwanegol. Mae'n bwysig bod gweithwyr y safle yn gwybod pam maeent yn cael eu gofyn am wybodaeth, pam mae'r wybodaeth yn cael ei chreu a chyflenwi a sut mae'r holl wybodaeth yn ffitio i broses BIM.

Felly, mae'r hyfforddiant cywir yn wirioneddol werthfawr.

Mae manteision cofnodedig BIM yn cynnwys:

  • Gwell ffiniau elw.
  • Arbedion amser a chost wrth ddylunio cyn adeiladu.
  • Arbedion amser a chost wrth ddylunio adeilad.
  • Mwy o ddiogelwch a gwell gydymffurfiad â rheoliadau rheoleiddiol
  • Effeithlonrwydd yn ystod y cyfnod trosglwyddo
  • Effeithlonrwydd gweithredol
  • Cydweithio a llai o adrannau'n weithio'n gyfrinachol.

Gall fod yn anodd i fesur arbedion cost gan nad yw neb yn gwybod pa gamgymeriadau a allai fod wedi eu digwydd heb y defnydd o BIM. Er gwaethaf hyn, nododd dros chwarter o gleientiaid sy'n defnyddio BIM arbedion cost mewn arolygon diweddar.

Un fudd o ddefnyddio BIM sy'n cael ei nodi'n aml yw ei fod yn helpu osgoi gwrthdaro gan fod ganddo'r gallu i nodi lle bydd amryw elfennau o adeilad - bod yn strwythurau, gwaith pib, ceblau - yn gwrthdaro gan arwain at yr angen i'w symud neu ailgynllunio. Mae cael model 3D sy'n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol yn eich galluogi chi i nodi a delio â materion o'r fath cyn iddynt ddigwydd ar y safle.

Dylid gweld BIM fel rhan o duedd ehangach: Y defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol a data er mwyn helpu lleihau cost a gwella ansawdd. Mae buddiannau cyffredin sy'n ganlyniadau i ddigidoleiddio y ffordd yr ydym yn gweithio yn cynnwys; gwybodaeth fwy cywir ynghylch cynlluniau prosiect a manylebau cynnyrch gyda phawb yn cael mynediad at yr un gwybodaeth a'r gallu i gydweithio'n haws o ganlyniad. - Mae pob un o'r buddiannau hyn yn fuddiannau cyffredin ddefnyddio BIM.

Mae CITB wedi gweithio ag Academi BRE i greu cwrs penodol o'r enw BIM ar gyfer Rheolwyr Safle, i gefnogi'r rôl hwn. Canfyddwch fwy yma:   https://bre.ac/course/bim-level-2-for-site-managers/. 

Mae cyrsiau eraill ar BIM sy'n fwy cyffredinol ar gael.  Rydym wedi cynnwys dolenni cyswllt i ystod o ddarparwyr isod. (Nid yw'r cyrsiau na'u cymwysterau a gynhwysir a restrir isod wedi eu cymeradwyo gan y CITB o reidrwydd)

BIM Plus  (rhestr o gyrsiau addysg uwch) –  www.bimplus.co.uk/education/  

Academi BIM -

Campws BIM – www.bimcampus.co.uk/course.html

Academi BRE – https://bre.ac 

Gwe-seminarau BRE – http://www.bre.co.uk/podpage.jsp?id=3452   

BSI – www.bsigroup.com/en-GB/our-services/training-courses

Academi CIOB – www.ciobacademy.org

ICE – www.icetraining.org.uk/courses/bim

RICS – www.rics.org/uk/training-events/e-learning/distance-learning

Gellir dod o hyd i fwy o ffynonellau gwybodaeth ar BIM ar-lein. Dyma rai dolenni defnyddiol.

A ydych yn barod am BIM? Adnodd defnyddiol gan BRE (Y Sefydliad Ymchwil Adeiladau) [The Buildings Research Establishment]: https://www.bre.co.uk/bim

Y grŵp gorchwylio BIM: Adnodd defnyddiol ynghylch cynydd a'r mabwysiadu o BIM ar lefel llywodraeth y DU

There's no BIM like home – One man’s dream to BIM and IOT his Smart Home: blog ynghylch cymhwyso BIM (plus) i dŷ teras dwy ystafell yng Nghymru  https://bimblog.house/

Mae Academi BRE yn darparu addysg a hyfforddiant ar BIM: http://www.bre.co.uk/page.jsp?id=3445 ac adroddiad defnyddiol ar fod yn barod ar gyfer BIM  https://bre.ac/wp-content/uploads/2017/02/BIM-Readiness.pdf 

Mae Fframwaith Glanio Meddal BSIRIA yn cynnig gwybodaeth ar sut i gynnal ymgysylltiad wedi defnydd :

 

Mae Digital Built Britain wrthi'n datblygu y defnydd a'r ymarfer o BIM Lefel 3 :http://digital-built-britain.com/

 

PAS 1192-2:2013 is BSI’s  specification for information management for the capital/delivery phase of construction projects using BIM:http://shop.bsigroup.com/forms/PASs/PAS-1192-2/ 

PAS 1192-2:2013 is BSI’s  fanyleb ar gyfer rheoli gwybodaeth yn ystod y cyfnod cyfalaf/gyflwyno o brosiectau adeiladu sy'n defnyddio BIM:http://shop.bsigroup.com/forms/PASs/PAS-1192-2/ 

Cwrs a argymhellir

.