Facebook Pixel
Skip to content

Chwalu mythau am BIM

Canfod mwy am sut mae BIM yn gweithio mewn gwirionedd.

Mae BIM yn bell o fod yn feddalwedd, mae ynghylch y prosesau a gwybodaeth a ddelir a rhannir yn ddigidol ar brosiect. Mae meddalwedd – o fodelu 3D a CAD i becynnau BIM llawn – yn declyn defnyddiol.

Fodd bynnag, y cynllunio, proses gwneud penderfyniadau a chydweithio gwell a gânt eu galluogi trwy’r wybodaeth a’r modelau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae angen ffyrdd newydd o weithio a gytunwyd gan y gadwyn gyflenwi yn ei chyfanrwydd i allu ymdopi’r teclynnau a phrosesau hyn ar safle adeiladu

Gall unrhyw ffordd newydd o weithio teimlo’n rhwystredig o araf i ddechrau ond mae’r rhan fwyaf o’ holiaduron diweddar yn dangos arbedion amser wrth ddarparu fel canlyniad. Gellir gweld enghreifftiau o'r arbedion hyn trwy osgoi gwrthdaro ac osgoi gwallau a allant gael eu hachosi gan fodelau llawn data. Trwy ddefnyddio BIM, dylid treulio llai o amser ar gamgymeriadau ac ailweithio.

Fodd bynnag:  ‘Mae methu cynllunio yn cynllunio i fethu.’ Mae BIM yn gorfodi cynllunio a chydweithio, o ganlyniad mae’r canlyniad a ddaw o ganlyniad yn un sy’n arbed amser wrth gyflwyno prosiect. Gallai ychwanegu cam neu ddau at y broses ond dylai tynnu camau poenus na chynllunnir ar eu cyfer o’r prosiect wrth iddo esblygu.

Yn aml, cysylltir pryderon ynghylch meddalwedd BIM â chostau uchel – a dyna pam ceir ei gysylltu yn aml â phrosiectau mawr proffidiol. Nid yw pecynnau meddalwedd drud yn ofynnol, er efallai y byddent yn fuddsoddiad gwerth chweil fodd bynnag, yn enwedig wrth weithio ar draws sawl prosiect. Mae hefyd nifer o opsiynau meddalwedd llai eu cost ac appiau gellir eu lawrlwytho yn ddi-dâl sy’n gweithio ar ffônau a llechen.

Mae BIM yn ymwneud fwy â ffordd newydd o weithio yn hytrach na thechnoleg yn unig. Mae’n bwysig bod pawb yn gwybod y rôl maent yn chwarae a sut i gael y mwyaf o BIM. Tu hwnt i feddalwedd, mae’n debygol bydd angen i gwmnïau fuddsoddi mewn hyfforddiant. Mae’n bwysig bod pawb yn gwybod am y rôl maent yn ei chwarae a sut i gael y mwyaf o BIM. Gall hwn ychwanegu at y gost o fabwysiadu'r agenda, ond mae'n ymwneud â diogelu’r gweithlu at y dyfodol a’r gost a ddaw o ganlyniad yn ogystal â buddiannau yn ymwneud ag amser ac ansawdd sy’n debygol o'i wneud yn werth chweil.

Yn sicr, bydd buddiannau BIM yn cael eu teimlo’n fwy eiddgar ar brosiectau mawr, yn bennaf am ei fod yn rhagofyniad ar gyfer nifer o brosiectau llywodraethau yn y DU a thramor. 

Serch hynny, mae’r blog “There's no BIM like home – One man’s dream to BIM and IOT his Smart Home” (Saesneg yn unig) yn trafod cymhwyso BIM i dŷ teras dwy ystafell yng Nghymru a theimlo’r buddiannau o gael  – a pherchen ar – y data ynghylch y tŷ.  Gwir, cafodd ei ysgrifennu gan arbenigwr BIM, ond mae’n gipolwg ar sut nad yw BIM ond yn berthnasol i brosiectau mawr.

Mae BMI wedi bod ar y gweill ers amser maith.  Mae’n esblygiad naturiol. Mae’r diwydiant adeiladu o hyd yn arloesi ond hefyd yn un sy'n amharod i gymryd risgiau. Nid oes neb am weld adeiladau’n cwympo neu’n achosi niwed.

Mae technolegau digidol wedi aeddfedu ac mae rhaid i’r diwydiant adeiladu aeddfedu wrth eu hochr.  Gall y rheiny sy’n methu â symud, gael eu gadael ar ôl.

Er mae’n sicr y bydd BIM yn helpu atal problemau, ni all eu datrys nhw i gyd ac na fydd yn awtomeiddio popeth.  Yr hyn y bydd yn ei wneud yw gwneud i bobl feddwl a chydweithio er mwyn cyflawni gwell ganlyniad.

Cwrs a argymhellir

Academi BRE: BIM ar gyfer Rheolwyr Safle