Facebook Pixel
Skip to content

Ynglŷn â CDM

Canfod mwy am y Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) (CDM), a lle gallwch chi gael adnoddau a chefnogaeth bellach.


CDM yw'r brif set o reoliadau ar gyfer rheoli iechyd, diogelwch a lles prosiectau adeiladu. Gwyliwch ein fideo fer sy'n egluro hanfodion CDM.

Pwyntiau allweddol i Reoliadau CDM 2015

Rhaid i'r prosiect ddilyn pob un o Gamau 1 a 2 PLUS rhaid i'r cleient hysbysu HSE o'r prosiect.

 Lawr lwythwch boster A4 (660KB PDF) yma sy'n dangos y pwyntiau allweddol hyn.

 

Rhaid i bob prosiect fod â:

  • gweithwyr sydd â'r sgiliau, y wybodaeth, yr hyfforddiant a'r profiad cywir,
  • contractwyr sy'n darparu goruchwyliaeth, cyfarwyddyd a gwybodaeth briodol,
  • cynllun cyfnod adeiladu ysgrifenedig. Lawr lwythwch yr enghraifft hwn (146KB, PDF)

Graphic of warning triangle depicting step 1 of CDM regulations.

Prosiectau sy'n cynnwys mwy nag un contractwr (domestig neu annomestig):

  • rhaid dilyn Cam 1 a mwy:
  • rhaid penodi prif ddylunydd a phrif gontractwr,
  • ffeil iechyd a diogelwch.



Graphic of warning triangle depicting step 2 of CDM regulations.

Os yw'r gwaith wedi'i drefnu i:

  • bara mwy na 30 diwrnod gwaith a,
  • fod â mwy na 20 o weithwyr yn gweithio ar yr un pryd ar unrhyw adeg yn y prosiect,
  • NEU yn fwy na 500 diwrnod

Graphic with hazard tape around step 3 of CDM regulations.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd...

Mae'r Adran Iechyd a Diogelwch (HSE) yn ffynhonnell wybodaeth ac arweiniad da. Mae wedi cynhyrchu:

  • Y cyhoeddiad allweddol Rheoli iechyd a diogelwch ym maes adeiladu - Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015 - (L153) ar y gofynion cyfreithiol ar gyfer CDM 2015.
  • Rhai tudalennau Cwestiynau Cyffredin defnyddiol iawn. Nid yw’r rhain yn ganllaw ffurfiol gan yr HSE ac ni fwriedir iddynt gwmpasu pob agwedd ar y pwnc na bod yn ateb ‘un maint i bawb’, ond maent yn darparu atebion cyson a defnyddiol i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin sydd wedi codi am CDM 2015.
  • Tudalennau gwe ac adnoddau pwrpasol HSE Construction.