Facebook Pixel
Skip to content

Dwyrain Lloegr

Gweler manylion am ddigwyddiadau, cefnogaeth a rhwydweithiau diwydiant lleol

Beth sy'n digwydd yn eich ardal chi

Sioeau Teithiol i Gyflogwyr CITB

Yn dilyn pryderon cynyddol ynghylch firws COVID-19 ac am ragofalon diogelwch, yn anffodus, rydym wedi penderfynu canslo'r Sioeau Teithiol i Gyflogwyr sydd ar y gweill. Rydym yn deall y bydd hyn yn newyddion siomedig ond mae iechyd a diogelwch ein cynrychiolwyr o'r pwys mwyaf.

Cyhoeddir mwy o fanylion am ddewis arall ar-lein maes o law.

Cefnogaeth i dyfu eich busnes

Gall busnesau yn Norfolk a Suffolk gael mynediad at ystod eang o grantiau a chyllid trwy New Anglia LEP. Mae cefnogaeth ariannol yn cynnwys grantiau o £1,000 i £500,000 i gefnogi datblygiad a thwf busnes. I drafod grantiau a chyllid ar gyfer eich busnes, cysylltwch â Hwb Twf New Anglia i gael cyngor diduedd yn rhad ac am ddim. Gallwn hefyd gynnig benthyciadau i gychwyn prosiectau seilwaith  trwy ein Cronfa Growing Places

New Anglia Growth Hub

Cymorth i hyfforddi, recriwtio ac ariannu eich staff

Mae Rhaglen "New Anglia Skills Deal" wedi cefnogi cyflogwyr, ochr yn ochr â darparwyr hyfforddiant, i chwilio am gyllid ar gyfer prosiectau sy'n mynd i'r afael â bwlch yn - neu rwystr i fynediad at ddarpariaeth hyfforddiant. Darganfyddwch fwy am y prosiectau a ariennir trwy'r "Skills Deal":

Rhaglen New Anglia Skills Deal 

Bydd Cynlluniau Sgiliau Sector yn dynodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer pob un o'r sectorau twf a chyflogaeth allweddol yn ein hardal. Bydd y cynlluniau'n nodi prif anghenion sgiliau'r sectorau yn ogystal â set o gamau y cytunwyd arnynt i helpu i sicrhau bod yr anghenion hyn yn cael eu bodloni. Mae sylfaen dystiolaeth / set ddata y mae'r cynlluniau hyn yn seiliedig arni hefyd ar gael i'w gweld. Edrychwch ar gynlluniau gorffenedig a seiliau tystiolaeth:

Cynlluniau Sgiliau Sector 

Grwpiau hyfforddiant yn eich ardal chi

Mae CITB yn cefnogi Grwpiau Hyfforddiant Adeiladu lleol i helpu cwmnïau yn y diwydiant adeiladu i gael mynediad at hyfforddiant fforddiadwy. Mae grwpiau hyfforddiant yn cynnwys cwmnïau o bob maint ar draws gwahanol feysydd adeiladu. Mae dau grŵp hyfforddiant adeiladu yn New Anglia.

Grŵp Hyfforddiant Adeiladu Norfolk (NCTG)
Mae Grŵp Hyfforddiant Adeiladu Norfolk(NCTG) yn cael ei gefnogi gan CITB i helpu cwmnïau yn y diwydiant adeiladu i gael mynediad at hyfforddiant fforddiadwy i'w gweithwyr. Mae'n cynnig hyfforddiant fforddiadwy i aelodau, ac fel y trafodwyd, gallant gynnig cefnogaeth ac arweiniad i'ch cwmni wrth gael mynediad at hyfforddiant perthnasol, ac mae'n gweithio gyda chi i wneud hyfforddiant yn effeithiol ac yn fforddiadwy.

Gwefan:  Norfolk Construction Training Group
Cyswllt: Samantha Thomas, Swyddog Grŵp Hyfforddi
Ffôn: 01953 600700
E-bost:  

Grŵp Hyfforddiant Adeiladu Dwyrain Lloegr (EECTG)
Mae Grŵp Hyfforddiant Adeiladu Dwyrain Lloegr (EECTG) yn cael ei gefnogi gan CITB i helpu cwmnïau yn y diwydiant adeiladu i gael mynediad at hyfforddiant fforddiadwy i'w gweithwyr. Mae'n cynnig hyfforddiant fforddiadwy i aelodau, ac efallai y bydd yn gallu cynnig cefnogaeth ac arweiniad i'ch cwmni wrth gael mynediad at hyfforddiant perthnasol, ac mae'n gweithio gyda chi i wneud hyfforddiant yn effeithiol ac yn fforddiadwy.

Gwefan: East of England Construction Training Group
Cyswllt: Ann Marrison, Swyddog Grŵp Hyfforddi
Ffôn: 01953 607707 neu 07919 927918
E-bost:

Prosiectau hyfforddi wedi'u hariannu gan CITB

Daw'r sylwadau isod gan ddau gyflogwr New Anglia a gyrchodd gefnogaeth ar gyfer datblygiadau hyfforddiant a sgiliau trwy Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant CITB.

Cwmni wedi'i leoli yn Norwich
"Mae'r gallu i arholi'n fewnol wedi cynyddu ein safonau gweithredu, gan sicrhau lefel uwch o sgiliau a gwybodaeth ar yr un pryd ... Bydd hyn yn arbed tua £40,000 y flwyddyn i'r cwmni, gan nad ydym bellach yn dibynnu ar gwmnïau allanol iar gyfer arholiadau mewnol."

Cwmni wedi'i leoli yn Suffolk
"Rhoddodd cyllid CITB gyfle i ni hyfforddi a chymhwyso ein staff, yn unol â gofynion rheoliadol ein sector ...Yn awr, mae gan fwy o staff gymwysterau y mae ein cleientiaid yn eu mynnu fwyfwy ... Mae cyllid wedi galluogi ein busnes i basio gofynion cymwysterau i adnewyddu ac ennill contractau, gan ganiatáu i'n busnes dyfu mewn meysydd allweddol ... Mae'r hyfforddiant wedi pontio bylchau gwybodaeth ymhlith staff, gan fod hyfforddiant wedi canolbwyntio ar feysydd nad oedd yn fedrus o'r blaen. "

Cronfa Sgiliau a Hyfforddiant CITB

Cysylltwch â'ch ymgynghorydd ymgysylltu â chwsmeriaid lleol


Norfolk

Claire Daly
Ffôn: 07793 666028
E-bost:

Suffolk

Laura McNeil
Ffôn: 07467 330650
E-bost:

Beth sy'n digwydd yn eich ardal chi

Sioeau Teithiol i Gyflogwyr CITB


Yn dilyn pryderon cynyddol ynghylch firws COVID-19 ac am ragofalon diogelwch, yn anffodus, rydym wedi penderfynu canslo'r Sioeau Teithiol i Gyflogwyr sydd ar y gweill. Rydym yn deall y bydd hyn yn newyddion siomedig ond mae iechyd a diogelwch ein cynrychiolwyr o'r pwys mwyaf.

Cyhoeddir mwy o fanylion am ddewis arall ar-lein maes o law.

Cefnogaeth i dyfu eich busnes

Cefnogaeth i fusnesau o bob maint o ran cyfleoedd Buddsoddi, Cyllid a Busnes.

Essex.gov.uk - Cefnogaeth i fusnesau

Grantiau, Benthyciadau a Buddsoddiad i fusnesau ledled y De Ddwyrain ar gyfer busnesau bach.

Help i hyfforddi, recriwtio ac ariannu eich staff

Twf Busnes - Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF)
Dyrannwyd £74.1 miliwn i Bartneriaeth Menter Leol y De Ddwyrain (LEP) i ddarparu prosiectau o fewn y rhaglen hon sy'n cefnogi ymchwil ac arloesedd. Amcanion pob prosiect yw cefnogi busnesau bach a chanolig a chreu swyddi.

De Ddwyrain - Cefnogaeth i Fusnesau

Grwpiau hyfforddi yn eich ardal chi

Cymdeithas Hyfforddiant Adeiladu - Essex 

Prosiectau hyfforddi wedi'u hariannu gan CITB

Canolfannau hyfforddiant a ariennir gan CITB yn Southend, Harlow a De Sussex

Cysylltwch â'ch ymgynghorwyr ymgysylltu â chwsmeriaid lleol

De Essex

Nikki Parsons
Ffôn: 07867 141497
E-bost: Nikki.parsons@citb.co.uk

Gogledd Essex

Swydd wag

Beth sy'n digwydd yn eich ardal chi

Sioeau Teithiol i Gyflogwyr CITB

Yn dilyn pryderon cynyddol ynghylch firws COVID-19 ac am ragofalon diogelwch, yn anffodus, rydym wedi penderfynu canslo'r Sioeau Teithiol i Gyflogwyr sydd ar y gweill. Rydym yn deall y bydd hyn yn newyddion siomedig ond mae iechyd a diogelwch ein cynrychiolwyr o'r pwys mwyaf.

Cyhoeddir mwy o fanylion am ddewis arall ar-lein maes o law.

Cefnogaeth i dyfu eich busnes

Signpost 2 Grow
Mae Signpost 2 Grow yn hwb sy'n rhoi mynediad i fusnesau lleol i ystod eang o gymorth busnes, cyngor, grantiau a digwyddiadau gyda'r nod o helpu busnesau i dyfu a datblygu.

Mae'r mynediad at gyngor a'r gefnogaeth yn rhad ac am ddim trwy bob cam: Cychwyn Busnes, Cyflogaeth, Hyfforddiant a Thwf.

Ffôn: 01480 277180
E-bost:
Twitter: @Signpost2Grow
Linkedin: Signpost2grow

Help i hyfforddi, recriwtio ac ariannu eich staff

Ffurfio'r Dyfodol
Mae'r fenter gymdeithasol hon, sy'n weithredol ledled Swydd Caergrawnt, yn helpu ysgolion i baratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith ac yn cefnogi busnesau sydd â chyfleoedd allgymorth addysgol i helpu i adeiladu eu talent.

Ffôn: 01223 781296
E-bost:
Gwefan:  Form the Future

Y Gwasanaeth Sgiliau
Mae'r sefydliad hwn, sy'n weithredol yn ardal Peterborough, Fenland, Dwyrain Swydd Caergrawnt a Swydd Huntingdon, yn helpu i greu partneriaethau rhwng ysgolion, darparwyr hyfforddiant a busnesau er mwyn datblygu gwybodaeth, dyheadau a sgiliau cyflogadwyedd pobl ifanc.

Ffôn: 01733 317441
E-bost:
Gwefan:

Edge
Mae Edge, sy'n weithgar yn Swydd Huntingdon, yn sefydliad sy'n dwyn ynghyd fusnesau lleol, unigolion sy'n chwilio am waith a'r rheiny sy'n ceisio gwella eu sgiliau, darparwyr hyfforddiant ac ysgolion, gan fynd i'r afael yn uniongyrchol ag anghenion sgiliau a hyfforddiant i gwmnïau lleol.

Ffôn: 01480 435654
E-bost:
Gwefan:

Grwpiau hyfforddi yn eich ardal chi

Convert Training
Mae un grŵp hyfforddiant adeiladu yn ardal Caergrawnt / Peterborough sy'n cwmpasu ystod eang o gyflogwyr adeiladu a'u hanghenion hyfforddi.

Cyswllt: Karen Gipson
Ffôn: 01480 400994
Gwefan: Convert Training

Prosiectau hyfforddi wedi'u hariannu gan CITB

Llwybrau i mewn i'r Diwydiant Adeiladu
Llwyddodd y sefydliad "Women Into Construction", ynghyd â'r cyflogwr adeiladu lleol Hill Partnerships, i sicrhau cyllid Llwybrau i mewn i'r Diwydiant Adeiladu. Mae Shelley Lawrence (Arweinydd Caergrawnt) yn brysur yn cynllunio ymgysylltiad â rhanddeiliaid lleol i annog  mwy o fenywod i rolau adeiladu.

Women into Construction

Straeon llwyddiant cyflogwyr

Prosiect Gwella A14 (2016-2020)
Gan fod y gwaith ar yr A14 bron â gorffen, mae gwaith etifeddol y mae Tîm Integredig Cyflawni'r A14 (Skanska, Costain a Bafour Beatty) wedi'i gyflawni trwy weithio gyda rhanddeiliaid lleol, wedi golygu bod eu gwirfoddolwyr a'u Llysgenhadon STEM, wedi cyflawni swm anhygoel, gan ymgysylltu â dros 12,600 o bobl ifanc yn yr ardal, mewn dros 250 o ddigwyddiadau a darparwyd profiad gwaith a chyfleoedd gwaith i lawer o bobl ifanc.

Hwb Hyfforddiant Urban & Civic (2019-2020)
Llwyddodd Urban & Civic i ennill cyllid Cynllun Ail-hyfforddi gan y llywodraeth (o’r enw Cronfa Sgiliau Adeiladu) i gefnogi eu datblygiad yn Alconbury Weald. Maent yn cyflwyno sawl cwrs: Cipolwg ar Adeiladu, Archwilio'r Diwydiant Adeiladu, Cyn-brentisiaeth Adeiladu ac Ail-hyfforddi Cyn staff y lluoedd arfog yn y diwydiant Adeiladu. Eu nod yw denu talent newydd i mewn i'r diwydiant adeiladu o'r ardal leol a hyfforddi dros 650 o bobl gyda lleoliadau gwaith ar gyfer 30% o'r hyfforddeion.

Cysylltwch â'ch ymgynghorwyr ymgysylltu â chwsmeriaid lleol


Swydd Caergrawnt

Jan Rejek

Mae gen i gefndir mewn busnes (cynllunio, rheoli a gwasanaeth cwsmeriaid), hyfforddiant a datblygu. Mae gen i 12 mlynedd o brofiad gyda CITB, yn cefnogi cyflogwyr a rhanddeiliaid i gynyddu lefelau sgiliau yn y diwydiant adeiladu. Roedd fy nhad yn berchen ar gwmni adeiladu bach ac roeddwn i'n arfer ei helpu ar y safle a rhedeg y busnes, felly rwy'n gwybod y materion sy'n wynebu cyflogwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig. Rwy'n angerddol dros ddatblygu unigolion a busnesau i wneud y gorau o'u potensial.

Cysylltwch ag unrhyw ymholiadau am sgiliau, hyfforddiant, cymwysterau, grantiau, cyllid, recriwtio ac ymgysylltu ag ysgolion.

Ffôn: 07767 325397
E-bost:
Twitter:  @janrejek
Linkedin:  janrejek

Peterborough

Nicky Dady
Ffôn: 07770 860081
E-bost:

Efallai y bydd gennych chi hefyd ddiddordeb yn ...

Canfod sut y gall cyflogwyr lleol elwa o gyflogi prentis am gyfnod byr yn ein

Darganfyddwch fwy am yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer adeiladu dan arweiniad CITB ac a gymeradwywyd gan ddiwydiant