Gweithio mewn partneriaeth dros sgiliau
Mae wedi bod yn wych mynd allan ar ôl y cyfyngiadau pandemig rydym ni wedi’u dioddef dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae teithio i gyfarfod â chydweithwyr a phartneriaid yn y diwydiant wedi bod yn braf.
Mae wedi bod yn ysbrydoledig hefyd, fel y canfûm yn ystod fy ymweliad â Chanolbwynt Adeiladu Caerlŷr, a ariennir ar y cyd gan CITB, trwy ein comisiwn Profiad ar y Safle.
Mae’r canolbwynt, lle gall recriwtiaid adeiladu ennill sgiliau parod ar gyfer gwaith, yn enghraifft o un o’m themâu ers ymuno â CITB: pŵer partneriaethau.
Buddsoddiad
Lansiwyd y canolbwynt ym mis Chwefror a bydd yn darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i tua 400 o bobl mewn dwy flynedd. Mae ei leoliad, yng nghanol prosiect adfywio Ashton Green, yn fan gwych gan fod tai, carchar, rheilffordd, ysbyty, yn ogystal â datblygiad stadiwm Pêl Droed Dinas Caerlŷr, i gyd yn brosiectau cyfagos sydd ar y gweill.
Mae CITB wedi buddsoddi dros hanner miliwn o bunnoedd yn y canolbwynt newydd. Mae Cyngor Dinas Caerlŷr, sy'n arwain y prosiect, wedi cyfrannu £300mil o arian cyfalaf. Mae Futures, sy'n arbenigo mewn gwaith ar gyfer pobl ifanc 18 i 25 oed, hefyd yn cyfrannu dros £100mil i'r prosiect.
Mae’r canolbwynt yn enghraifft dda o bartneriaid yn buddsoddi mewn pobl a sgiliau er budd y gymuned, adeiladu’r DU a’n heconomi.
Sgiliau
Pan ymwelais â’r canolbwynt yr wythnos diwethaf roedd brwdfrydedd hyfforddeion a chyflogwyr yn aruthrol.
Mae’r canolbwynt eisoes wedi cefnogi dros 40 o bobl i gael gwaith a hyfforddiant. Roedd yn dda gweld cymaint o gyflogwyr lleol yn ystod fy ymweliad: A R Demolition, C R Civil Engineering a Danaher & Walsh.
Dywedodd Simon Pipkin o RJH Building Construction Ltd, wrth wefan Cyngor Dinas Caerlŷr fod y cynllun “wedi bod yn hynod fuddiol” i’w gwmni.
Dywedodd: “Mae gan dîm y canolbwynt sgiliau ddealltwriaeth o’n hanghenion busnes. Rydym ni wedi rhoi cyfle i bump o bobl leol o’r canolbwynt hyd yn hyn. Mae tri o’r rheini wedi ymuno â’n cwmni yn yr hirdymor drwy hyfforddiant yn y gwaith neu brentisiaeth. Rydym ni’n disgwyl y bydd gennym agoriadau ar gyfer mwy yn 2022.”
Yn y cyfamser roedd y bobl y cyfarfu â hwy wedi gwneud argraff fawr ar Rupert Perkins, Rheolwr Gyfarwyddwr John Perkins Construction, fel y gwnaethant arnaf i. Ar ôl ei ymweliad siaradodd â Chomisiynydd CITB, Rohan Cheriyan a dywedodd: “Roedd cymysgedd o diwtoriaid, cyflogwyr cefnogol a dau unigolyn ifanc a ddywedodd yn gymhellol wrthym sut yr oeddent wedi elwa o’r canolbwynt.
Mae sylwadau Simon a Rupert yn galonogol wrth i CITB gynllunio i gefnogi 1,500 o bobl drwy ganolfannau yng Nghymru a Lloegr eleni.
Swyddi
Ers i mi ymuno â CITB rwyf wedi bod yn glir na allwn ddatrys yr holl heriau sy’n ymwneud â sgiliau y mae diwydiant yn eu hwynebu. Mae CITB yn un o nifer o chwaraewyr yn y maes sgiliau.
Mae’r canolfannau ar y safle, sy’n anelu at adeiladu ar lwyddiant y Gronfa Sgiliau Adeiladu, yn un o nifer o brosiectau partneriaeth y mae CITB yn rhan ohonynt. Mewn gwirionedd rydym wedi gwneud cyfres o gyhoeddiadau partneriaeth yn ystod y mis diwethaf.
Ychydig wythnosau yn ôl, fe wnaethom lansio canllaw sgiliau digidol cydweithredol ar gyfer busnesau bach yn yr Alban.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi cymorth ariannol ar gyfer rhaglen BuildBack y Sector Gorffeniadau a Ffitiadau Mewnol, sef datrysiad recriwtio a sefydlu ar gyfer gweithwyr leinin sych y mae wir eu hangen.
A’r wythnos nesaf byddaf yng Nghymru, yng Ngharchar Berwyn, i dynnu sylw at brosiect cydweithredol ysbrydoledig a fydd yn cynnig dechrau newydd i fywyd i’r rhai sy’n gadael carchar drwy yrfa adeiladu.
Cydweithio
Mae gan y diwydiant adeiladu enw am weithio mewn seilos, am ddiffyg cydweithredu. Mae hyn yn ddealladwy o ystyried natur dameidiog y sector.
Fodd bynnag, er mwyn cau'r bwlch sgiliau mae cydweithio'n hanfodol. Dyna pam mae ein prosiectau partneriaeth, gwaith caled fy nghydweithwyr a brwdfrydedd myfyrwyr yn fy nghalonogi.
Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut rydym yn creu sgiliau a swyddi ar gyfer y dyfodol. Fel y dywed y dywediad, mae gwaith tîm yn gwneud i'r freuddwyd weithio.
Os hoffech chi rannu eich barn, cysylltwch drwy ceo@citb.co.uk.