Facebook Pixel
Skip to content

Y Coleg Adeiladu Cenedlaethol yn croesawu rownd ranbarthol SkillBuild

Dechreuodd y gystadleuaeth sgiliau adeiladu fwyaf a hynaf yn y DU bythefnos yn ôl, ac mae rowndiau rhanbarthol SkillBuild 2022 yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.

Mae SkillBuild yn cael ei drefnu gan CITB ac mae’n ffurfio rhan o WorldSkills UK, y cyfeirir ato’n aml fel y ‘Gemau Olympaidd ar gyfer sgiliau.’ Cynhelir 16 o rowndiau rhagbrofol mewn gwahanol golegau ledled y DU tan ddiwedd mis Mehefin, ar gyfer nifer o wahanol grefftau, gan gynnwys gosod brics, gwaith coed a saernïaeth.

Un o’r colegau hyn yw Coleg Adeiladu Cenedlaethol CITB yn Bircham Newton, lle cynhelir y rownd ragbrofol ar gyfer cystadleuwyr yn Nwyrain Lloegr neu’n agos at y rhanbarth heddiw (10 Mai). Bydd y cystadleuwyr â’r sgorau uchaf yn mynd ymlaen i’r ail gam yn y gystadleuaeth, gan gymhwyso ar gyfer y Rownd Derfynol Genedlaethol yn ddiweddarach eleni. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 y llynedd, cynhaliwyd y rowndiau cymhwyso o bell yng ngholegau’r cystadleuwyr, a chyrhaeddodd 54 ohonynt y Rownd Derfynol Genedlaethol, a gynhaliwyd yn y Coleg Adeiladu Cenedlaethol yn Bircham Newton fis Tachwedd diwethaf.

Cynhelir y gystadleuaeth ar adeg pan mae prinder sgiliau, ac mae galw mawr am fwy o weithwyr yn y diwydiant adeiladu. Mae’r adroddiad Rethinking Recruitment a gyhoeddwyd gan CITB yn ddiweddar yn pwysleisio bod angen denu mwy o unigolion i’r maes adeiladu, a chan ei fod yn cynnwys crefftau amrywiol, mae SkillBuild yn gyfle gwych i newid canfyddiadau a hybu’r ystod amrywiol o swyddi sydd ar gael.

Dywedodd Ben Blackledge, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol WorldSkills UK:

"Gall cymryd rhan yn un o gystadlaethau WorldSkills UK fod yn brofiad sy’n newid eich bywyd, a hoffwn ddymuno pob lwc i bob un o’r cystadleuwyr adeiladu yn eu rowndiau rhagbrofol.

"Mae rhaglenni datblygu seiliedig ar gystadleuaeth WorldSkills UK yn cynnig cyfle i fyfyrwyr a phrentisiaid ddangos eu sgiliau a chystadlu yn erbyn goreuon y DU, ac o bosibl ar y llwyfan rhyngwladol yn Lyon yng nghystadleuaeth ryngwladol WorldSkills yn 2024."

Dywedodd Jonathan Chivers, Cyfarwyddwr Rheoli Cynnyrch CITB:

“Mae’r Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol yn gam cyffrous iawn yn y gystadleuaeth SkillBuild, gan mai dyma’r cip cyntaf rydym yn ei gael ar yr amrywiaeth eang o sgiliau a thalentau sy’n dod drwodd i’r diwydiant. O waith coed i beintio ac addurno, a thoi gyda llechi a theils, mae’r hyfforddeion hyn yn arddangos addysg dechnegol adeiladu ar ei gorau, a gall hynny ysbrydoli llawer o bobl ifanc eraill.

“Mae’r gystadleuaeth yn bendant yn brofiad heriol, ond mae CITB yn falch iawn o bawb sy’n cymryd rhan ac yn dymuno pob lwc iddynt i gyd wrth i rowndiau rhagbrofol eleni ddechrau.”