Rydym yn gweithio dros ddiwydiant lle bynnag y gwelwn gyfleoedd i ymgysylltu â phenderfynwyr, dylanwadu ar bolisi, a chreu partneriaethau dynamig ar draws llywodraeth, busnes a chymunedau.
Ein hamcanion cenedlaethol yw:
- helpu'r llywodraeth i gydnabod anghenion y diwydiant o ran datblygu sgiliau
- gweithio gyda phartneriaethau menter lleol, cyrff rhanbarthol a gweinyddiaethau cenedlaethol i gefnogi blaenoriaethau hyfforddi
- cryfhau perthnasoedd â grwpiau cyflogwyr, cleientiaid y sector cyhoeddus a ffederasiynau masnach
- gwella cynrychiolaeth y diwydiant ar bwyllgorau CITB
- denu mwy o bobl i mewn i'r diwydiant adeiladu a mwy o gyflogwyr i fuddsoddi mewn hyfforddiant
- ymgyrchu, perswadio a dylanwadu er budd diwydiant
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith, cysylltwch â policy@citb.co.uk