Facebook Pixel
Skip to content

Cynnydd mawr yng nghymeradwyaethau’r Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant

Croeso i ddiweddariad chwarterol cyntaf CITB Cymru.

Nod yr e-bost hwn yw darparu gwybodaeth ynglŷn â’n gwaith a’ch helpu chi i wneud y gorau o’n gwasanaethau.

Nodyn cyflym i atgoffa cyflogwyr cofrestredig nad ydyn nhw wedi dychwelyd eu Ffurflen Lefi, gwnewch hynny cyn gynted ag sy’n bosibl os gwelwch yn dda! Bydd y dudalen we yma yn eich helpu chi i wneud hyn.

Cynnydd mawr yng nghymeradwyaethau’r Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant

Roedd 24 cais llwyddiannus ym mis Mai, gyda thros £83,000 wedi’i ddyfarnu i hyfforddi staff dros y 12 mis nesaf. Mae hyn yn cymharu â 16 o geisiadau a gymeradwywyd ym mis Ebrill, pan ddyfarnwyd oddeutu £56,000. A oes diddordeb gennych chi mewn cael cyllid? Gallwch gysylltu â’ch cynghorydd ymgysylltu CITB lleol yma.

Hyrwyddo gyrfaoedd yn y byd adeiladu i ferched

Cynhaliwyd ein digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a gefnogir gan Gyrfa Cymru, ar ddydd Gwener, 1 Gorffennaf, yn Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru a Coleg Caerdydd a’r Fro (cynhaliwyd digwyddiad yng Ngholeg Cambria ym mis Mawrth).

Clywodd myfyrwyr blwyddyn 8 ac uwch gan fenywod ysbrydoledig sydd wedi dilyn gyrfa yn y byd adeiladu, cwrdd â chyflogwyr a chymryd rhan mewn cyfleoedd rhyngweithiol.

Mae cyflogwyr sy’n cefnogi’r digwyddiad yn cynnwys:

""

Y newyddion diweddaraf ynglŷn â chymwysterau newydd sydd ynghlwm â phrentisiaethau

O fis Awst, bydd rhai prentisiaethau adeiladu yng Nghymru yn newid. Mae hyn yn dilyn adolygiad o gymwysterau adeiladu Cymwysterau Cymru Adeiladu’r Dyfodol. Mae CITB yn gweithio er mwyn sicrhau bod pawb yn meddu ar y wybodaeth y maent eu hangen cyn i’r newidiadau ddod i rym. Ewch i'n gwefan am ddiweddariadau yn ystod yr haf.

Rhagolwg sgiliau Cymru yn datgelu swyddogaethau sydd â galw amdanynt

Cyhoeddwyd Rhagolwg Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu i Gymru gan CITB ar 14 Mehefin. Erbyn 2026, mae’n rhagweld y bydd angen 11,500 o weithwyr ychwanegol er mwyn bodloni’r galw yng Nghymru. Mae’r lefelau recriwtio cryfaf ar gyfer Gweithwyr Gosod Brics, y crefftau Trydanol, gwaith Plymio a chrefftau GAAD. Siaradodd Aled Hughes, Cynghorydd Ymgysylltu CITB Cymru, gydag ITV News am ymchwil RhSA o safle Morganstone yn Nhre-gŵyr.

Cyllid profiad ar y safle wedi cael ei ymestyn

Bu Willow Kehily, saer ysbrydoledig yn Aberteifi, yn siarad â Tivy-Side Advertiser am ei phrofiad ar ein rhaglen Canolfan Profiad Ar y Safle, sydd wedi’i rheoli gan Sgiliau Adeiladu Cyfle. Gallwch chi ddarllen y stori yma.

Rydym wrth ein boddau yn nodi bod cyllid Profiad ar y Safle wedi cael ei ymestyn hyd at Fis Mawrth 2025.

Hyrwyddo’r Gymraeg ac iechyd meddwl yn y byd adeiladu

Ym mis Mehefin, bu TIR Construction Ltd ym Mhenrhyndeudraeth yn rhannu eu barn ynglŷn â buddion cyflogi staff sy’n siarad Cymraeg. Mae prentisiaethau dwyieithog hefyd yn chwarae rhan arwyddocaol yn llwyddiant Jones Brothers, un o gwmnïau peirianneg sifil mwyaf y DU. Gellir darllen mwy yma (dyfyniad gan Emrys Roberts, Cynghorydd Ymgysylltu â Chwsmeriaid CITB).

Yn y cyfamser, siaradodd Gareth Williams, ein Rheolwr Safonau a Chymwysterau â Radio Cymru ynglŷn â phwysigrwydd cefnogi iechyd meddwl yn y byd adeiladu. Roedd hyn yn dilyn y Daily Mail yn galw gofal iechyd meddwl ar safleoedd yn ‘woke’

Mae cyflogwyr a rhanddeiliaid yng Nghymru yn cael eu hannog i gyfrannu tuag at ddatblygu a diwygio’r safonau hyfforddi yr ydym yn eu cynhyrchu yn ddwyieithog. Yn ogystal, rydym yn darparu cefnogaeth ddwyieithog i gyflogwyr gyda phroses a chymwysterau'r brentisiaeth newydd

Myfyrwyr Coleg Penfro yn cwblhau cwrs saer maen

Mae cwrs deng niwrnod, Cyflwyniad i Waith Saer Maen Traddodiadol, a dderbyniodd gyngor ynglŷn â hyfforddiant gan Helen Murray, Cynghorydd Ymgysylltu CITB Cymru, wedi cael ei gwblhau gan 19 o fyfyrwyr adeiladu o Goleg Penfro. Gellir cael mwy o wybodaeth yma.

Cyfle newydd i 54 o ddynion yn CEM Berwyn

Mae dros 50 o ddynion o CEM Berwyn yn dysgu sgiliau adeiladu ac yn cael cyfleoedd gwaith. Cynhaliwyd digwyddiad Cwrdd â’r Cyflogwr ar 12 Mai, a gellir cael gwybodaeth ynglŷn â’r prosiect cychwyn o’r newydd hwn yma.

Diolch am ddarllen. Pwynt terfynol cyflym: mae ein Cynllun Cenedl Newydd, sy’n nodi sut y byddwn yn cefnogi diwydiant yng Nghymru, newydd gael ei gyhoeddi. Gallwch ei ddarllen yma.

Mae croeso i chi anfon eich adborth ynglŷn â’r diweddariad hwn, rhowch wybod inni beth fyddech chi’n hoffi’i ddarllen.

Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf gan CITB, gallwch gofrestru ar gyfer ein e-byst yma.