Facebook Pixel
Skip to content

Ein arweiniad i Am Adeiladu

Beth yw am adeiladu?

Mae Am Adeiladu'n lwyfan sy'n darparu adnoddau i unrhyw un sy'n ystyred gyrfa yn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Mae'n fenter diwydiant, sy'n cael ei chefnogi gan Lefi CITB ac wedi'i hariannu gan gyflogwyr adeiladu.

Ar draws Am Adeiladu, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau diwydiant, mae Am Adeiladu'n arddangos y nifer fawr o gyfleoedd gwerth chweil sydd ar gael yn ein diwydiant cyffrous, sy'n tyfu ac yn helpu pobl o bob cefndir i fynd i mewn i dai, diwydiant a seilwaith y DU a chael effaith arnynt.

Ar gyfer pwy mae Am Adeiladu?

Mae Am Adeiladu'n cefnogi:

Pobl ifanc sy'n ystyried gwahanol opsiynau gyrfa
Pobl ifanc sy'n chwilio am wybodaeth am yrfaoedd yn y diwydiant adeiladu.
Pobl o unrhyw oed a allai fod â sgiliau trosglwyddadwy o ddiwydiannau eraill.
Gweithwyr proffesiynol sy'n rhoi arweiniad; athrawon, cynghorwyr gyrfaoedd neu Lysgenhadon STEM Am Adeiladu

P'un a ydynt eisoes wedi dewis ymuno â'r diwydiant adeiladu neu'n dal i benderfynu a yw'n addas, mae Am Adeiladu'n rhoi cyngor ar ddod o hyd i rolau boddhaus sy'n addas i allu a diddordebau pob unigolyn.

Gellir defnyddio adnoddau Am Adeiladu i lywio ac arwain penderfyniadau gan unigolion, ac i sicrhau bod gan rieni, cynghorwyr gyrfaoedd, addysgwyr a Llysgenhadon STEM Am Adeiladu ganllawiau gwerthfawr, sy'n hawdd eu rhannu.

Sut gall cyflogwyr elwa o Am Adeiladu?

Rydym ni bob amser yn chwilio am gyflogwyr i gymryd rhan a'n helpu ni i rannu straeon bywyd go iawn, cyngor a chip olwg o fywyd diwydiant trwy Am Adeiladu.

Trwy ein helpu i rannu straeon ysbrydoledig, bydd cyfle i chi:

Hyrwyddwo eich cyfleoedd recriwtio.
Adeiladu eich enw da fel cyflogwr adeiladu.
Herio canfyddiadau a chwalu mythau am y diwydiant adeiladu.
Cau'r bwlch sgiliau a diogelu dyfodol ein diwydiant.

Mae'r cynnwys rydyn ni'n ei rannu ar lwyfannau Am Adeiladu yn dangos, ein bod fel diwydiant:

  • Rydym yn adeiladu gweithlu amrywiol
  • Rydym yn cynnig diwylliant gweithle cadarnhaol
  • Rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd ac yn ffynnu pan fydd pawb yn gwneud eu gorau
  • Rydym yn datblygu i fodloni anghenion y dyfodol
  • Rydym yn arloesi technoleg ac arferion newydd
  • Rydym yn mynd i'r afael â'r heriau y mae ein byd yn eu hwynebu
  • Rydym yn cefnogi ystod eang o rolau ar draws ein sector
  • Rydym yn datblygu ystod amrywiol o wybodaeth, crefftau a setiau sgiliau
  • Rydym yn cynnig ffyrdd di-rif i ddatblygu gyrfaoedd
  • Rydym yn croesawu ffyrdd hyblyg o weithio
  • Rydym yn cynnig cyfleoedd i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • Nid ydym yn cadw at yr oriau 9 i 5 arferol yn unig
  • Rydym yn buddsoddi mewn pobl ar bob cam o'u hyfforddiant a'u dilyniant gyrfa
  • Rydym ni'n dathlu'r unigolion medrus iawn sy'n llywio ein llwyddiant
  • Rydym yn adeiladu ein diwydiant ar lwyddiant ein pobl

Cymryd rhan

Rydyn ni wedi creu cyfres o becynnau cymorth i gyflogwyr i ddangos pa mor hawdd yw hi i chi ein helpu ni i wella dealltwriaeth pobl o sut beth yw gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae pob pecyn cymorth yn cynnig enghreifftiau o gynnwys rydyn ni'n chwilio amdano, ffyrdd i'w rannu gyda ni, ynghyd â help ac adnoddau.