Pecyn Cyfryngau Cymdeithasol
Cefnogwch Am Adeiladu ar gyfryngau cymdeithasol
Y ffordd hawsaf o ymgysylltu â Am Adeiladu yw trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Rydyn ni wedi llunio rhai rhestrau defnyddiol o ffyrdd y gallwch chi gysylltu â'r llwyfan ar-lein a'n helpu ni i greu cynnwys sy'n annog pobl o bob cefndir i ddechrau ar yrfa ym maes adeiladu a'r amgylchedd adeiledig.
Gallwch gefnogi Am Adeiladu drwy:
- Dilyn Am Adeiladu ar Instagram, Facebook, Twitter a Youtube
- Tagio @AmAdeiladu yn eich post ar y cyfryngau cymdeithasol
- Hoffi ein post, eu rhannu ac ymgysylltu â'n cynnwys
- Hyrwyddo’r adnoddau ar wefan Am Adeiladu trwy eich sianeli
- Ymgysylltu â ni ar ddiwrnodau / wythnosau ymwybyddiaeth fel Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau neu Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Rhannwch eich straeon a'ch cyfleoedd
Mae yna lawer o fathau o gynnwys cyfryngau cymdeithasol y gallwch chi eu creu neu eu rhannu yn hawdd i'n helpu ni i hyrwyddo ein diwydiant trwy Am Adeiladu.
Gallwch naill ai gysylltu â ni yn uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol neu e-bostio lluniau, straeon a chyfleoedd diwydiant i info@goconstruct.org gan ddefnyddio ‘cynnwys Am Adeiladu’ fel y teitl. Ar gyfer ffeiliau mawr, neu i anfon sawl delwedd, ystyriwch ddefnyddio WeTransfer i'w hanfon i ni.
Cymorth ac adnoddau
Rydym ni wedi creu rhai canllawiau a thempledi i'ch helpu chi i gymryd rhan gyda Am Adeiladu trwy'r cyfryngau cymdeithasol.