Her fwyaf y diwydiant adeiladu
Hoffwn ddechrau’r blog hwn drwy ddiolch i bawb sydd wedi llenwi Ffurflen Lefi y CITB.
Gadewch i ni fod yn onest, nid yw gwaith papur yn dasg ddeniadol. Fodd bynnag, mae’n dasg hollbwysig o ran y Lefi.
Felly, i bawb sydd wedi cyrraedd y dyddiad cau heddiw, rydw i a fy nghydweithwyr yn ei werthfawrogi.
I'r rheini sydd heb orffen, neu sydd angen help i lenwi eu Ffurflen Lefi, bydd y dudalen hon, yn eich helpu i gwblhau’r dasg.
Un o fy nodau mwyaf fel Prif Weithredwr y CITB, yw bod pobl o bob disgrifiad sy’n talu’r Lefi yn cael gwerth am yr arian maen nhw wedi’i ennill drwy’r grantiau a’r cyllid sydd ar gael.
Rwy’n awyddus i rymuso cyflogwyr drwy eu helpu i benderfynu lle orau y gellir defnyddio’r Lefi i gefnogi datblygu sgiliau.
Bydd ein treialon rhwydwaith cyflogwyr, fel y nodwyd yn ein Cynllun Busnes newydd, yn profi’r cysyniad o roi mwy o gyfle i gyflogwyr ddefnyddio’r grant mewn meysydd a fydd yn fwyaf defnyddiol iddynt.
Mae cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar grantiau a chyllid yn rhan allweddol o fynd i’r afael â her fwyaf adeiladu: lleihau’r bwlch sgiliau.
Cynlluniau Cenedl
Mae sgiliau ar flaen y gad yn ein Cynlluniau Cenedl newydd ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban.
Bydd y Cynlluniau Cenedl yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf i ategu ein Cynllun Busnes drwy adlewyrchu lleisiau cyflogwyr. Maen nhw’n dangos sut byddwn ni’n gweithio gyda llywodraethau cenedlaethol i gefnogi’r diwydiant adeiladu.
Fel ein Cynllun Busnes, maent yn canolbwyntio ar dair her allweddol: ymateb i’r galw am sgiliau; datblygu capasiti a gallu’r ddarpariaeth hyfforddiant; ac anghenion sgiliau yn y dyfodol.
Fodd bynnag, o ystyried y gwahanol lywodraethau a dulliau o ddysgu yn y tair gwlad, ceir, wrth gwrs, gynlluniau sy’n unigryw i bob cynllun.
Lloegr
Er enghraifft, un o nodau Cynllun Cenedl Lloegr yw i CITB weithio ochr yn ochr â’r Llywodraeth a phartneriaid yn y diwydiant i baratoi gwaith adeiladu ar gyfer lefelau T.
Bydd Lloegr hefyd yn gweld ‘cynnig Profiad Gwaith’ cynhwysfawr yn cael ei lansio. Bydd CITB yn cydweithio â darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr i helpu i sicrhau bod 4,000 o gyfleoedd blasu profiad gwaith ar gael.
Bydd CITB hefyd yn parhau â’n gwaith gyda’r Cyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y Cynllun Cadw Talent ac Talentview Construction (TC). Ein nod fydd cyfateb 1,000 o brentisiaid i swyddi drwy TC.
Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda chyflogwyr lleol ledled Lloegr i droi profiad yn swyddi drwy ein Hybiau Profiad Ar y Safle. Yn 2022-23 rydym yn anelu at gael 5,160 o bobl yn barod ar gyfer y safle neu yn barod i ddechrau swydd newydd drwy’r hybiau.
Yr Alban
Ddechrau’r mis hwn, cyhoeddodd CITB fuddsoddiad o £3m mewn adeiladu yn yr Alban.
Bwriad hyn oedd cefnogi pobl sy’n dechrau eu gyrfa ac i gadw mwy o swyddi.
Yn ystod 2022-23, bydd yr Alban yn gweld mwy o fuddsoddiad. Mae hyn yn cynnwys lansio Academïau’r Alban ar gyfer Cyfleoedd Adeiladu. Byddant yn rhoi hwb i recriwtio drwy gysylltu rhanddeiliaid â’r rheini sy’n gweithio ac sy’n barod ar gyfer y safle.
Mae gan Gynllun Cenedl yr Alban hefyd fanylion contract £8.5m gyda Skills Development Scotland i ddarparu 1,344 o brentisiaethau’n dechrau yn 2022-23.
Cymru
Mae llawer o weithgareddau gyrfa addawol ar y gweill yng Nghymru, yn y tymor hir a’r tymor byr hefyd.
Er enghraifft, yfory, bydd ein digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a ohiriwyd yn gynharach eleni, yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Arloesi Adeiladu Cymru a ariennir gan CITB, ynghyd â Choleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Cambria.
Bydd myfyrwyr Blwyddyn 8 ac uwch yn clywed gan fenywod ysbrydoledig sydd wedi dilyn gyrfa ym maes adeiladu. Byddant hefyd yn cwrdd â chyflogwyr sy’n cefnogi’r digwyddiad a gefnogir gan Gyrfa Cymru. Diolch i Kier, BAM Construction, TAD Builders Ltd, J Randall Roofing Contractors a Willis Construction.
Bydd Cynllun Cenedl Cymru yn cynnwys manylion yr ymgyrch boblogaidd Gweld Eich Safle, a fydd yn cael ei lansio ym mis Tachwedd.
Ac mae llawer o waith ar y gweill i sicrhau bod cyflogwyr yn barod ar gyfer y newidiadau i gymwysterau prentisiaeth a fydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ym mis Medi.
Sgiliau
Mae llawer i edrych ymlaen ato. Roedd ein ffigurau newydd ar gyfer y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu, a gyhoeddwyd ddechrau mis Mehefin, yn dangos y bydd angen 266,000 o weithwyr ychwanegol i ddiwallu’r galw yn y DU erbyn 2026 (53,200 o weithwyr y flwyddyn, a fydd yn gynnydd o ffigur y llynedd, sef 43,000).
Bydd y cynnydd mwyaf yn y galw blynyddol ar gyfer seiri coed/seiri celf a rheolwyr adeiladu, ynghyd ag amrywiaeth o rolau technegol.
Mae’n amlwg bod heriau a chyfleoedd mawr ar y gorwel.
Ar ôl gwrando ar safbwyntiau rhanddeiliaid ers Consensws ‘21, rwy’n falch bod ein gwaith cynllunio ar waith ar-lein. Rwy’n edrych ymlaen at weld gweithredoedd CITB o fudd i’r diwydiant.