Facebook Pixel
Skip to content

Adrodd ar Berfformiad

Trosolwg

Mae adroddiadau perfformiad y CITB, sy’n cael eu cyhoeddi bob chwarter, yn ceisio rhoi trosolwg o sut mae Lefi'r diwydiant yn cael ei fuddsoddi a pha effaith mae wedi’i gael, gan roi cyfle i chi olrhain ein cynnydd yn erbyn ein cynllun busnes. Er mai’r prif bwrpas yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn eich helpu chi i’n helpu ni, pan fyddwch chi’n rhoi adborth ar sut a ble rydych chi’n meddwl y dylid buddsoddi Lefi’r diwydiant.

Chwarter 3: Ebrill i Rhagfyr 2023

Mae’r adroddiad perfformiad hwn yn olrhain ein cynnydd yn erbyn y targedau a nodir yn ein cynllun busnes, a sut rydym yn cefnogi’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol, nawr ac yn y dyfodol.

Ein rôl yw:

  • Rhoi gwybodaeth i’r bobl iawn a’u galluogi i ddechrau arni yn y diwydiant adeiladu
  • Datblygu system hyfforddi a sgiliau i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol
  • Cefnogi’r diwydiant i hyfforddi a datblygu ei weithlu

Darllenwch yr adroddiad llawn:

Dyma rai o uchafbwyntiau’r chwarter hwn:

Targed: 4% cynyddu’r cyfleoedd blasu sydd ar gael

Cynnydd: uwch na’r targed ar 42%

Rydym wedi gweld ymateb gwych i’n rhaglen flasu gan gyflogwyr, darparwyr dysgu a darpar newydd-ddyfodiaid fel ei gilydd. Mae dros 20,000 o bobl wedi elwa o brofiadau blasu, â 7,000 o sesiynau wedi’u darparu yn y tri mis diwethaf.

Darparwyd mwy na 18,000 o brofiadau blasu wyneb yn wyneb, gan gwmpasu ymweliadau safle, cyflwyniadau, gweithdai gyrfaoedd rhyngweithiol, a chyfleoedd i archwilio peiriannau a thechnoleg flaengar.

Targed: 5% cynyddu’r cymorth hyfforddiant CITB y mae cyflogwyr yn cyrchu

Cynnydd: uwch na’r targed ar 11%

Mae dros 25,000 o gyflogwyr wedi manteisio ar ein cynnig cymorth hyfforddiant helaeth, yn amrywio o gyrsiau hyfforddi cyfnod byr o ddydd i ddydd i ariannu rhaglenni hyfforddi arloesol ar raddfa fawr.

Rydym wedi buddsoddi £112m i helpu i hyfforddi’r gweithlu, â bron i hanner (£50m) yn grantiau prentisiaeth. Mae nifer fawr wedi manteisio ar ein grantiau eraill hefyd, â bron i 7,000 o gyflogwyr yn elwa ar dros £19m mewn grantiau cyrsiau byr, yn cael dros £2,800 ar gyfartaledd, a 2,100 arall yn cael dros £13m mewn grantiau cymhwyster, sef grant o £6,000 fesul cymhwyster.

Targed: 15% cynyddu’r nifer o bobl mewn cyflogaeth barhaus am dri mis trwy Hybiau ar y Safle

Cynnydd: uwch na’r targed ar 135%

Mae ein Hybiau Profiad ar y Safle yn cynyddu’r gronfa dalent yng Nghymru a Lloegr drwy gysylltu cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, awdurdodau lleol, Partneriaethau Cyflogaeth Lleol, asiantaethau cymunedol a phartneriaid eraill, gan alluogi’r datblygiad a chyflogaeth o bobl sy’n barod i weithio ar y safle o gymunedau lleol.

Mae bron i 7,000 o bobl wedi’u ymgysylltu’n llwyddiannus gan yr hybiau, â 4,700 o’r rheini’n dod yn barod i weithio ar y safle ac ar gael ar gyfer cyflogaeth ar unwaith.