Facebook Pixel
Skip to content

Canlyniadau Chwilio

Chwilio am newyddion a digwyddiadau

Math

Newyddion lleol a digwyddiadau

Canfuwyd 142 o erthyglau

Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.

Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.

Galw am weithwyr adeiladu yn uchel er gwaetha'r ansicrwydd economaidd

Yn erbyn cefndir o her economaidd, costau deunyddiau a llafur cynyddol, mae ffigurau newydd gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn datgelu y bydd angen bron i 225,000 o weithwyr ychwanegol i fodloni galw adeiladu’r DU erbyn 2027.

Mae angen 9,100 o weithwyr adeiladu ychwanegol yng Nghymru erbyn 2027

Yn erbyn cefndir o her economaidd, costau deunyddiau a llafur cynyddol, mae ffigurau newydd gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn datgelu y bydd angen 9,100 o weithwyr ychwanegol i fodloni’r galw adeiladu yng Nghymru erbyn 2027.

Diweddariad ar newidiadau i Safonau a Grantiau Peiriannau CITB

Mae CITB wedi cyhoeddi diweddariad i newidiadau arfaethedig i safonau a grantiau peiriannau i safoni gofynion hyfforddi a phrofi ar draws y diwydiant adeiladu. Gwnaed cynnydd rhagorol ac rydym yn falch o gadarnhau bod y set gyntaf o safonau newydd yn barod ac wedi'u datblygu ar y cyd â gweithgorau'r diwydiant sy'n cynnwys cyflogwyr, darparwyr a ffederasiynau. Gan fod y safonau newydd hyn yn fanylach nag unrhyw safon mae CITB wedi'u cynhyrchu o'r blaen ac yn cynrychioli newid gwirioneddol yn y ffordd y caiff hyfforddiant a phrofi peiriannau ei ddarparu, mae angen i ni sicrhau bod y newidiadau y mae'r diwydiant wedi gofyn amdanynt yn cael eu cyflawni'n iawn.

Dyddiadur Cynghorydd Ymgysylltu CITB

Fy swydd i yw helpu cwmnïau i gael yr holl gyllid y maen nhw'n gymwys i'w gael, yn ôl Cynghorydd Ymgysylltu CITB, Abbie Langridge.

Mae CITB yn talu £5 miliwn yn fwy mewn grantiau yn y flwyddyn ariannol hon ac mae'n bwriadu cefnogi hyd yn oed mwy o fusnesau yn 2023

Eleni, mae CITB wedi talu dros £5m yn fwy mewn grantiau ac wedi cefnogi bron i 700 yn fwy o gyflogwyr i gymharu â’r un cyfnod yn 2021.

“Cwad” Adeiladu, sy’n cael cymorth gan CITB, yn sicrhau swyddi i 90% o fyfyrwyr

Mae cyfleuster hyfforddiant mewn ysgol, a oedd yn rhoi pobl leol mewn cysylltiad â chyflogwyr a oedd yn cael trafferth recriwtio gweithwyr medrus, wedi sicrhau llwyddiant ysgubol.

Mae Coleg Cambria, CITB a chwmnïau adeiladu gogledd Cymru yn dod at ei gilydd i roi cyngor cyflogadwyedd i ddysgwyr

Ymunodd dros 100 o ddysgwyr adeiladu â digwyddiad cyflogadwyedd CITB yn ddiweddar yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy. Nod y digwyddiadau hyn yw rhoi cipolwg i ddysgwyr yn y coleg ar yr hyn y mae cwmnïau yn chwilio amdano mewn prentis, pa lefel o ymddygiad y maent yn ei ddisgwyl a sut i fynd ati orau i gael rhywfaint o brofiad gwaith a phrentisiaeth. Mae'r dysgwyr hefyd yn clywed pwysigrwydd Iechyd a Diogelwch ar y safle.

Canolfan Profiad ar y Safle yn gweddnewid bywyd Daniel

“Dysgu sgil newydd bob dydd oedd un o’r teimladau gorau.” Dyna argraffiadau saer dan hyfforddiant o’r enw Daniel Skelly. Maent yn enghraifft dda iawn o sut gall hyfforddiant ar gyfer gyrfa newydd fod yn bleserus – a thrawsnewid bywyd.

Llenwyd bwlch hyfforddiant Rheoli ac Arwain gyda dros £10M o gyrsiau am ddim

Mae CITB wedi dyfarnu contractau gwerth £10.5m, i bedwar sefydliad hyfforddi ledled y DU a fydd yn darparu 10,500 o gyrsiau rheoli ac arwain ILM am ddim ar draws bob sector o'r diwydiant adeiladu.

Cyhoeddi enillwyr ‘Gemau Olympaidd sgiliau adeiladu’ SkillBuild

Mae enillwyr Rowndiau Terfynol Cenedlaethol SkillBuild 2022 wedi’u cyhoeddi, ar ôl i bron i 80 o hyfforddeion adeiladu fynd benben â’i gilydd dros dri diwrnod. Mae SkillBuild, a alwyd aml yn ‘Gemau Olympaidd sgiliau adeiladu’, yn cael ei gyflwyno gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) mewn partneriaeth â WorldSkills UK ac mae’n cynnig cyfle i hyfforddeion gystadlu mewn ymgais i gael eu coroni’n enillydd y grefft o’u dewis.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth