Facebook Pixel
Skip to content

Canlyniadau Chwilio

Chwilio am newyddion a digwyddiadau

Math

Newyddion lleol a digwyddiadau

Canfuwyd 143 o erthyglau

Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.

Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.

CITB yn cyhoeddi cefnogaeth ar gyfer Cynllun Sgiliau’r Sector Adeiladu Cartrefi

Mae CITB wedi cyhoeddi cefnogaeth i Gynllun Sgiliau’r Sector Adeiladu Cartrefi (PDF. 452kb) sy’n cynrychioli ffordd newydd o weithio â’r sector i wella sgiliau, hyfforddiant a recriwtio. Mae’r cynllun wedi’i greu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid yn y sector adeiladu cartrefi a’i nod yw cynyddu argaeledd gweithwyr medrus, er mwyn helpu i ddiwallu anghenion y piblinell adeiladu cartrefi.

Mae Rownd Derfynol SkillBuild yn croesawu ymwelwyr i roi cynnig ar adeiladu

Ar ôl mwy na 1,000 o gofrestriadau ac 17 o rhagbrawf rhanbarthol, mae'r hyfforddeion adeiladu gorau o bob rhan o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi'u henwi fel cystadleuwyr yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2023.

CITB yn ymuno â Build UK ac arbenigwyr y diwydiant tân

Mae eGwrs newydd rhad ac am ddim wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Build UK ac arbenigwyr y diwydiant tân, â’r nod o wella gwybodaeth y sector am fesurau diogelwch tân mewn adeiladau. Yn dilyn trasiedi Tŵr Grenfell yn 2017 a’r ymchwiliad dilynol, mae’r diwydiant wedi gweithio’n galed i godi safonau diogelwch ac atal digwyddiad o’r fath rhag digwydd eto. Mae eGwrs Diogelwch Tân mewn Adeiladau CITB wedi’i greu fel ymateb uniongyrchol i argymhellion a wnaed gan Weithgor 2 (WG2), a ddyfeisiwyd i gefnogi’r ymchwiliad, fel yr amlinellwyd yn adroddiad Setting the Bar.

Porth lles a llesiant y gweithlu am ddim i bawb ym maes adeiladu

Mae Elusen y Diwydiant Adeiladu Lighthouse wedi partneru â CITB a’r Samariaid i greu offeryn cymorth lles, fel rhan o fenter y diwydiant cyfan Make It Visible. Nod Make It Visible yw gwneud cymorth lles a llesiant yn weladwy ar bob safle adeiladu, gan helpu i leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â’r pwnc a chynyddu ymwybyddiaeth o’r llwybrau cymorth sydd ar gael. Ar ôl sicrhau dro £400,000 o gyllid gan CITB, crëwyd porth gwefan rhad ac am ddim yn gynharach eleni i gefnogi’r fenter.

“Rhannu eich gwybodaeth i helpu eraill”

Mae gan weithwyr adeiladu profiadol wybodaeth na ellir ei ganfod mewn llyfrau. A thrwy ddod yn athrawon, un o nodau allweddol cynllun sgiliau newydd y Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu, gall gweithwyr hŷn roi sgiliau i newydd-ddyfodiaid sy’n helpu eu gyrfa. Mae Charlie Thorp, 66, Darlithydd Adeiladu, Aseswr a Mentor i brentisiaid gosod brics a Gweithredwyr Cynnal a Chadw Eiddo yng Ngholeg De Essex yn enghraifft.

Helpwch lunio dyfodol adeiladu ar Fwrdd Ymddiriedolwyr CITB

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn chwilio am dri ymddiriedolwr newydd i ymuno â’i Fwrdd o swyddogion anweithredol. Fel elusen a Chorff Cyhoeddus Anadrannol, mae CITB wedi cefnogi’r sector adeiladu ers dros 50 mlynedd, gan helpu i gadw gweithwyr yn ddiogel ar y safle, cefnogi hyfforddiant o ansawdd uchel a rhoi hwb i bobl ifanc yn eu gyrfa. Mae CITB yn codi arian drwy lefi gyflogwyr ac yn gweithio’n agos â chyflogwyr a’r Llywodraeth i sicrhau bod anghenion sgiliau adeiladu cenedlaethol ledled Prydain Fawr yn cael eu diwallu.

Mae CITB yn sicrhau gweithrediadau peiriannau mwy diogel gyda newidiadau i hyfforddiant a phrofion

Mae CITB yn treialu newidiadau ar draws cyfres o safonau hyfforddi gweithfeydd a grantiau, a weithredir o 31 Gorffennaf, a fydd yn helpu i safoni gofynion hyfforddi a phrofi peiriannau ar draws y diwydiant adeiladu.

Rôl adeiladu yn her fwyaf ein hoes

"Mae cyfnod berwi byd-eang wedi cyrraedd.” Pe bai ymadrodd erioed wedi eich gwneud yn ymwybodol o’r perygl o beidio â chyrraedd targedau sero net, yna’r dyfyniad diweddar hwn, gan ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, ydyw. Rwy’n angerddol dros yr amgylchedd ar lefel broffesiynol a phersonol fel y bydd darllenwyr fy mlogiau’n gwybod. Mae newid hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom ac mae ei effaith gynyddol yn amlwg. Yn y blog hwn byddaf yn rhannu ffeithiau diweddar ar newid hinsawdd. Byddaf hefyd yn amlinellu sut y mae CITB yn gweithio gyda diwydiant, Llywodraethau a darparwyr hyfforddiant i wasanaethu’r cyhoedd ar fater mwyaf dybryd ein hoes.

Cylchlythyr CITB Cymru: Atgyfnerthu ein hymrwymiad i’r Gymraeg

Croeso i ddiweddariad chwarterol CITB Cymru. Dyma newyddion am ein gwaith a fydd yn eich helpu i gael y gorau o’n gwasanaethau ledled Cymru.

Mae mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau ar gyfer y gweithlu lleol yn hanfodol, yn ôl adroddiad sgiliau adeiladu newydd ar gyfer yr Alban

Mae adroddiad diweddaraf Sgiliau Lleol - yr Alban gan fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), yn dangos bod mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau ar gyfer gweithluoedd lleol yn hanfodol i gefnogi diwydiant adeiladu’r wlad i ddarparu amgylchedd adeiledig sy’n effeithlon o ran ynni ac yn gynaliadwy.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth